Geraint Jones, Trefor

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 16:55, 17 Awst 2023 gan Cyfaill Eben (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Geraint Jones (Trefor)

Mae Geraint Jones (g. 1942) o bentref Trefor wedi bod yn ymgyrchydd iaith gydol ei oes, ac yn brifathro Ysgol yr Eifl, Trefor, o 1983 - 1997, yn gerddor gyda'r gorau ym myd y bandiau pres, yn arweinydd Seindorf Trefor am dros hanner canrif (o 1969) ac mae'n dal wrthi! Mae'n awdur nifer o lyfrau, yn arbennig llyfrau hanes. Ganwyd a magwyd ef yn Nhrefor a chafodd ei addysg yn ysgol Trefor, ysgol ramadeg Pwllheli, a Choleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth. Graddiodd yn y Gyfraith (LLB. 1963).

Fo oedd y cyntaf i fynd i'r carchar fel rhan o'r ymgyrch dros yr iaith Gymraeg. Roedd yn un o sefydlwyr Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ac mae wedi ymwneud â gwleidyddiaeth leol yng Ngwynedd gydol ei oes.

Am ddwy flynedd, hyd nes iddo gael ei rwystro gan yr awdurdodau, bu'n ysgrifennu colofn wythnosol ddychanol, ddadleuol ac ymosodol, "Sêt y Gornel", yn Y Cymro (2005 - 06).

Sefydlydd a Chadeirydd Cymdeithas Pysgotwyr Trefor.

Ef yw Rheolwr Canolfan Hanes Uwchgwyrfai ac un o'i sylfaenwyr. Hefyd, ef sy'n bennaf gyfrifol am Utgorn Cymru , chwarterolyn llafar y Ganolfan.

Yn ogystal, mae wedi bod yn llunio cwis poblogaidd "Sêt y Gornel" yn Y Faner Newydd ers rhai blynyddoedd bellach.

Yn Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd a gynhaliwyd ym Moduan o 5-12 Awst 2023 derbyniodd Geraint Jones Fedal Goffa Syr T H Parry-Williams - Er Clod. Dyfernir y fedal hon - sy'n un o brif anrhydeddau'r Eisteddfod - yn flynyddol i unigolyn sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig yn ei fro/bro, ac yn ehangach, gyda phwyslais arbennig ar hyfforddi pobl ifanc yn neilltuol. Dyfarnwyd yr anrhydedd hon i Geraint i gydnabod llafur oes yn ei fro, ac yng Nghymru'n ehangach, a hynny mewn ystod o wahanol feysydd - cerddoriaeth, hanes, crefydd, gwleidyddiaeth ac ymgyrchu dros y Gymraeg, a llenyddiaeth i nodi dim ond rhai. Cyflwynwyd y fedal iddo mewn seremoni urddasol yn y Pafiliwn Mawr ddydd Llun 7 Awst, gyda chyfeillion ac aelodau o'i deulu'n cymryd rhan.

Llyfryddiaeth

  • Rhen Sgŵl (Gwasg Bro'r Eifl, 1978)
  • Cywrain Wŷr y Cyrn Arian (Pwyllgor Seindorf Trefor/Cymdeithas Hanes Trefor, 1988)
  • Dianc i Drybini (Gwasg Bror Eifl, 1991)
  • Carchar nid Cartref (Clwb y Bont Pwllheli, 1992)
  • Hen Gerddorion Eifionydd (Cyngor Sir Gwynedd, 1993)
  • Cyrn y Diafol:Golwg ar Hanes Cynnar Bandiau Pres Chwarelwyr Gwynedd (Gwasg Gwynedd, 2004)
  • Band yr Hendra, Wmpa–Wmpa! (Gwasg Carreg Gwalch, 2004)
  • Trefor cyd awdur gyda Dafydd Williams (Canolfan Hanes Uwchgwyrfai, Clynnog Fawr 2006)
  • Epil Gwiberod yr Iwnion Jac (Gwasg y Bwythyn, 2009)
  • Gŵr Hynod Uwchlaw'rffynnon (Gwasg Carreg Gwalch, 2008)
  • Malcolm Allen, y Cofiant (Y Lolfa, 2009)
  • Moto Ni, Moto Coch - Canmlwyddiant Cwmni Bysus Clynnog a Threfor (Gwasg Carreg Gwalch, 2012)
  • John Preis (Gwasg Utgorn Cymru, 2014)
  • Gwlad y Menig Gwynion (Gwasg Carreg Gwalch, 1996)

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau