Odyn galch a Bwthyn y Foryd
Saif odyn galch a bwthyn y Foryd rhyw filltir a hanner i'r gorllewin o Lanwnda ar lan orllewinol Afon Gwyrfai, lle mae'n ymuno â bae'r Foryd. Ceir odynau calch eraill ar arfordir Uwchgwyrfai (megis yr un led cae o'r traeth rhwng Clynnog ac Aberdesach) ond mae odyn y Foryd yn enghraifft brin o un wedi'i hadeiladu ar lan afon lanwol (afon y mae llanw a thrai'n effeithio arni). Dim ond ar adegau pan oedd y llanw i mewn y gellid dod â chalch i'r odyn hon gan fod bae'r Foryd yn wag o ddŵr ac yn fwd trwchus ar drai. Yn gysylltiedig â'r odyn adeiladwyd bwthyn (ar gyfer ei cheidwad mae'n fwy na thebyg) ac mae hwn yn dŷ o hyd ac wedi'i helaethu. Mae muriau'r odyn yn dal i sefyll yn uchel gyda pharapetau crenelog iddynt.