Pant Du

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 13:51, 20 Ionawr 2018 gan Dilwyn (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Plasty hynafol yw Pant Du, ger Pen-y-groes.

Credir iddo gael ei adeiladu tua dechrau'r ail ganrif ar bymtheg ar gyfer William Humphrey, a fu'n Uchel Siryf Sir Gaernarfon ym 1611-12, a'i wraig Catrin Morgan. Gwelir eu harfbais gyda llythrennau cyntaf eu henwau obobtu (W.H a K.M.) uwchben hen le tan yn y tŷ.

Erbyn hyn ceir gwinllanoedd a pherllanoedd ar dir fferm Pant Du, ond datblygiad newydd yn yr 21G yw hyn.

Ffynonellau

Griffith, John Edwards, Pedigrees of Anglesey and Carnarvonshire Families (Horncastle, 1914), t. 157

Cofnod o'r lle hwn ar wefan y Comisiwn Brenhinol

Ambrose, W. R. Hynafiaethau, Cofiannau a Hanes Presennol Nant Nantlle. (Penygroes, 1872)