Tafarn y Waterloo

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 19:39, 29 Mehefin 2023 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Roedd Tafarn y Waterloo ar dir fferm Tyddyn Drain, Llanaelhaearn, ac ar ochr orllewinol y lôn bost o Bwllheli i Gaernarfon ychydig i'r Gogledd o'r fan lle ymuna'r ffordd o Lithfaen a Phen Llŷn â'r lôn bost, man strategol ar gyfer diwallu syched teithwyr. Ym 1836, William Jones oedd y tafarnwr pan adeiladwyd Pont Tyddyn Drain gerllaw'r dafarn. Roedd y dafarn wedi bod yno ers talwm, a'r hen enw arni oedd Tafarn Tyddyn Drain, er iddi gael ei hail-enwi i nodi buddugoliaeth Waterloo ym 1815.[1]

Mae'r adeilad yn dal i sefyll hyd heddiw.

Cyfeiriadau

  1. Gweler erthygl yng Nghof y Cwmwd am Cwm Band Trefor.