Tan-y-bwlch, Clynnog

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 17:50, 10 Ebrill 2023 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Tyddyn ar lethrau Mynydd Bwlch Mawr, ac ar fin y ffordd wledig sy'n mynd o Glynnog i gyfeiriad Llangybi a Llanaelhaearn, yw Tan-y-bwlch.

Yn yr ardd y tu ôl i'r ffermdy, (sydd wedi ei helaethu a'i foderneiddio bellach), ceir adeilad bychan o gerrig garw. Cred arbenigwyr ym maes pensaernïaeth fod hwn yn enghraifft brin sydd wedi goroesi o hafod, lle'r arferai teuluoedd symud i fyw o'r gwastadeddau dros yr haf gan ddod â'u hanifeiliaid i'w canlyn i bori ffriddoedd y llethrau. Mae'n adeilad cyntefig iawn, cyffelyb i gaban chwarelwyr. Nid yw ond 6 throedfedd o uchder, yr un faint o led, ac 8 troedfedd o hyd. Ceir lle tân yn un gornel, ac mae silffoedd wedi eu torri i mewn i'r muriau i ddal canhwyllau a chelfi. Gosodwyd cerrig enfawr i ddal a chynnal y to. Yn y cefn ceir cwt mochyn bychan iawn. Mae'n anodd pennu dyddiad i'r adeilad - rywbryd yn y 18g neu ddechrau'r 19g mae'n debyg.[1]

Erbyn hyn mae 5 hectar o dir Tan-y-bwlch wedi ei ddynodi'n Warchodfa Natur. Wedi'u hamgylchynu gan gloddiau cerrig a phridd, mae'r caeau hyn yn enghreifftiau prin erbyn hyn o weirgloddiau gwair lle na ddefnyddir unrhyw wrteithiau artiffisial na chemegolion. Caiff y caeau eu pori'n ysgafn gan wartheg yn yr hydref a'r gaeaf a chaiff gwair ynddynt ei gynaeafu'n hwyr at ddiwedd yr haf. Mae'r caeau i'w gweld ar eu gorau yn niwedd Mehefin a dechrau Gorffennaf pan maent yn llawn o flodau gwylltion, gan gynnwys blodau gwynion ysgafn y tegeirian llydanwyrdd. Yn y caeau isaf gwlypach ceir prysglwyni helyg sy'n gynefin nythu rhagorol i adar megis telor y coed a dryw wen. Ymysg y rhywogaethau eraill o adar a welir yno ceir y gnocell werdd, yr ehedydd a'r coch dan adain. Mae'n gynefin da hefyd i ysgyfarnogod, sy'n medru ymguddio yn y gwair tal. Yn ogystal ceir golygfeydd gwych o gaeau Tan-y-bwlch. Mae'r safle'n agored gydol y flwyddyn ac mae lle parcio bychan ar fin y ffordd (am ddim).(Cyfeirnod map OS: SH430488).[2]

Cyfeiriadau

  1. Richard Haslam, Julian Orbach ac Adam Voelcker, The Buildings of Wales - Gwynedd, (Yale University Press, 209), t. 316.
  2. Am ragor o wybodaeth gweler gwefan Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru.