Abraham Williams

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 18:44, 18 Mawrth 2023 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Roedd Abraham Williams, Llyn-y-gele, Pont-lyfni ym mhlwyf Clynnog Fawr, (c1620-1678) yn borthmon llwyddiannus.

Ceir y cyfeiriad cyntaf ato fo ym mis Ebrill 1651 yng nghofrestr Eglwys Sant Beuno, Clynnog Fawr, lle cofnodir bedydd Solomon, sef mab Abraham Williams a’i wraig Elin ferch William Morgan – a oedd, o bosibl, yn ferch i William Morgan, Derwyn, ym mhlwyf Clynnog Fawr. [1]. Dichon mai ffermio ei dir ei hun oedd Abraham y pryd hynny, ond cyn hir ceisiodd ddatblygu busnes fel deliwr mewn gwartheg a phorthmon. Ysywaeth fe droseddodd yn erbyn cyfraith oedd wedi ei gwneud hi’n anghyfreithlon i borthmona heb drwydded oddi wrth ynadon y sir. Fe’i cyhuddwyd o’r fath drosedd, ynghyd â dau arall, Robert Ellis a Rowland Hughes. Er iddynt syrthio ar eu bai gan hawlio nad oeddynt wedi sylweddoli bod angen trwydded, cafodd pob un ddirwy o £100, swm anferthol y pryd hynny pan ellid prynu buwch nobl am ddwy bunt. Rhaid cofio, wrth gwrs, bod porthmyn yn gyfrifol am yrru cannoedd o wartheg a defaid i farchnadoedd cig yn Lloegr, er mwyn eu gwerthu a dod â’r arian a gafwyd yn ôl at y ffermwyr oedd wedi eu magu. Roedd y cyfleoedd a gâi borthmon i dwyllo a dwyn arian yn amlwg a rhaid oedd rheoli’r dynion hyn. Beth bynnag, gwelwyd yr ynadon fod y dirwyon yn amhosibl i’r tri eu talu, a gostyngwyd y swm i £40 y pen. Fodd bynnag, roedd Abraham Williams yn dal i geisio am leihad yn y ddirwy, ac anfonodd gais at y llys nesaf i ofyn am drugaredd, gan ei fod (o gyfieithu ei eiriau ei hun) “ond yn ddyn tlawd iawn gyda gwraig a phump o blant bach a heb unrhyw ffordd o’u cynnal heblaw am yr hyn y caiff trwy brynu a gwerthu gwartheg a hynny mewn modd gonest”.[2]

Roedd y pum blentyn y soniwyd amdanynt yn ei lythyr at yr ynadon wedi mynd o leiaf yn saith cyn bo hir, sef Solomon Abraham alias Williams, a fedyddiwyd ym 1651, ynghyd â meibion eraill, William Abraham, David ac Isaac Williams, a phedair o ferched, Martha, Catherine, Anne a Margaret. Mae’n amlwg bod Abraham wedi dysgu o’i brofiadau efo’r ynadon, ac ym 1656 cafodd trwydded gan yr ynadon i barhau â’i waith.[3] Roedd bellach yn gallu gweithio fel porthmon parchus a chyfreithlon yr oedd yn cael ymddiried ynddo gan rai o fonheddwyr mwyaf Gogledd Cymru.

Oherwydd bod y porthmyn yn teithio rhwng Cymru a Llundain, roeddynt yn derbyn aml i gomisiwn i gludo arian a dogfennau rhwng tirfeddianwyr a masnachwyr y wlad a bancwyr a chyfreithwyr Llundain. Mor gynnar â Gorffennaf 1660, mae cofnod o Abraham Williams yn cludo arian gan sgweier Castell y Waun i Lundain ac roedd yn dal i wneud hynny am o leiaf 15 mlynedd. [4]

Gwnaeth Abraham gyffelyb gymwynasau i rai eraill, megis teuluoedd Penrhyn a Phlas Llanfair. [5] Cyfeirir ato mewn llythyr gan Ellis Hughes, cyfreithiwr yn Llundain at sgweier Llanfair, Richard Gruffith, fel “Mr Abraham Williams, drover”. Mae hyn yn cadarnhau mai porthmona oedd Abraham o hyd, a’r teitl “Mr” yn awgrymu dyn o sylwedd.

Mae’r cysylltiadau uchod efo Llanfair, Penrhyn a’r Waun yn awgrymu mai dyna oedd y ffordd yr yrrai ei anifeiliaid ar eu ffordd i Lundain, ac mae’r argraff hwn yn cael ei gadarnhau yn ei ewyllys lle nodir ei fod wedi gwerthu ceffyl i John Roberts, o’r Holt, ar y ffin â Lloegr, ac nid nepell o Wrecsam a’r Waun, a hynny am £3.6.0c.

Gwartheg oedd y prif anifeiliaid a oedd yn cael eu hallforio o Ogledd Cymru yn yr ail ganrif ar bymtheg, mae’n debyg. Dyna yn sicr oedd wedi achosi trafferth i Abraham Williams ar ddechrau ei yrfa, ond nid oedd Abraham yn gwrthod unrhyw gyfle busnes mae’n debyg, ac mae cofnod iddo werthu 500 o ddefaid i Robert Vaughan, cefnder i Ellis Hughes, y twrnai yn Llundain. [6]

Mae’n amlwg fod ei feibion wedi ei helpu yn y busnes; rhaid oedd i borthmyn fynd â chriw o ddynion gyda nhw er mwyn delio gyda gyrr helaeth o stoc, a cheir sôn am Solomon ei fab hynaf yn chwarae ei ran ym 1675.[7] Dichon fod dau fab arall wrthi gyda’u tad am un siwrne o leiaf, gan fod David Williams, mab arall Abraham yn Llundain ym 1675 pan benderfynodd fynd yn brentis i Edward Cooke, gwerthwr gwinoedd yn Llundain. Dair blwyddyn yn ddiweddarach nodir fod Isaac, mab arall, wedi ei brentisio i Anthony Morgan, gwneuthurwr nodwyddau, yntau yn Llundain.[8]Gydol ei oes, cyfeirid at Abraham Williams fel iwmon, sef ffermwr oedd yn berchen ar ei dir ei hun, ond fawr mwy na hynny. Roedd Llyn-y-gele, fodd bynnag, yn un o dai mwyaf y plwyf, gan fod dwy aelwyd yno ym 1662, er nad oedd ond un aelwyd ym mhob tŷ iwmon fel arfer.[9] Mae’n amlwg iddo hefyd fedru crynhoi digon o gyfoeth iddo brynu ambell i eiddo arall yn ystod ei oes. Yn ei ewyllys, mae o’n sôn am Dyddyn Agnes, Cae Glas a Dolau-arddyn, tiroedd a etifeddwyd wedyn gan ei fab Solomon. Roedd o hefyd yn berchen ar Felin Faesog, ac yn ei brydlesu i’r melinydd, John Griffith.

Cafodd ewyllys Abraham gael ei phrofi yn Llundain, a gallai hyn awgrymu fod ganddo eiddo yn y cyffiniau hynny. Mae yna gliw arall y gallai fod eiddo ganddo yno gan fod cytundebau prentisiaeth ei feibion David ac Isaac yn cynnwys disgrifiad o’u tad fel porwr anifeiliaid (“grazier”), sef un a besgai anifeiliaid wedi iddynt deithio o Gymru a mannau pellennig eraill a chyn eu gwerthu mewn marchnad cig. Mae’n amlwg o fanylion amrywiol yn ei ewyllys nad oedd Abraham wedi mudo i Lundain yn ei henaint, ond mae’r awgrym yn weddol glir felly fod ganddo dir tua Llundain lle gallai gadw’r anifeiliaid a yrrwyd ganddo o Gymru a’u cael i well gyflwr ar gyfer cigyddion y ddinas. Byddai hyn wedi arbed costau pori a bod o fantais i’w boced ei hun ac efallai i’w cleientiaid amaethyddol yn ôl yng Nghymru.

Bu farw Abraham Williams, mae’n bur debyg, yn ystod hanner cyntaf 1678. Ei ysgutorion oedd ei feibion David ac Isaac (y ddau yr ydym yn gwybod eu bod yn Llundain) a hefyd ei ferch Margaret. Gadawodd gyfanswm o £80 i amryw o’i blant eraill, sawl ŵyr, Rachel Roberts ei ferch-yng-nghyfraith, ei frawd David a’i chwaer Grace. Ei fab hynaf Solomon etifeddodd y ffermydd a thiroedd yng Nghlynnog yr oedd Abraham, mae’n debyg, wedi eu prynu yn ystod ei oes. Nid oes sôn am ei wraig Elin, ac mae’n debyg ei bod hi wedi marw o’i flaen.

Prif ddiddordeb arall ei ewyllys yw’r rhestr o arian yr oedd ar eraill iddo. Yn bennaf oedd y swm o £156.15.0c gan ei frawd David, yn rhannol mewn arian a hefyd mewn gwerth gwartheg. A yw hyn, tybed, yn golygu bod David yn bartner o ryw fath iddo? Byddai ar Abraham angen rhywun i reoli ei asedau yng Nghlynnog tra bo aelodau eraill o’r teulu ar daith borthmona.

Problem fawr yr oes oedd arian parod ac nid oedd yn anghyffredin i hyd yn oed ddyn cyfoethog fenthyg arian parod gan rywun oedd ag arian wrth law. Roedd ar bobl mor oludog â John Glyn o blas Glynllifon, William Wynne o Glan’rafon, a Griffith Wynne o Ystumllyn symiau sylweddol i Abraham pan ysgrifennodd ei ewyllys. Mae hyn yn dangos ei fod yn ddyn a gymysgai gyda dosbarth y tirfeddianwyr, er iddo arddel y disgrifiad “iwmon” hyd y diwedd. Ymysg y symiau llai a oedd yn ddyledus iddo yr oedd symiau am rent, aml i fenthyciad bach o bunt neu ddwy, a hyd yn oed arian am hadau barlys a cheffylau a werthwyd ganddo. Roedd tua £270 yn ddyledus iddo rhwng pob dim, swm anarferol o fawr yr adeg honno pan fyddai’r iwmon cyffredin â stoc ac eiddo arall i gyd ond gwerth tua £50 ar gyfartaledd.[10]

Mae’n amlwg y bu i Abraham greu busnes borthmona lwyddiannus, gan iddo sefydlu dynasti o borthmyn ymysg ei deulu. Rydym eisoes wedi nodi Solomon Williams fel cynorthwyydd i’w dad. Bu i Thomas Williams (geni 1645), gŵr Martha merch Abraham, ddilyn ei dad-yng-nghyfraith. Yn eu tro, aeth dau o wyrion Abraham yn borthmyn: William Thomas (y bu farw 1738), a briododd Elin, ei gyfnither ac un o wyresau Abraham; a brawd Elin, Abraham Thomas, Pen-y-bont Cim. Erbyn hynny, mae’n ymddangos i’r teulu gael ei gyfrif ymysg man fonheddwyr yr ardal, gan symud i Brynaerau Isaf. Arhosai’r enw Abraham dros dair cenhedlaeth, hyd nes i Abraham y bedwaredd genhedlaeth farw’n blentyn pedair oed ym 1724. Wedi hynny, yr enw a goffawyd ymysg enwau dynion y teulu oedd Solomon, a hynny am o leiaf naw cenhedlaeth, a hynny hyd yr ugeinfed ganrif.[11]

--Cyfeiriadau--

  1. Archifdy Caernarfon, XPE/28/1; LlGC Dogfennau Profiant Bangor, B/1662/43, 44
  2. Archifdy Caernarfon, XQS/1654/44
  3. Archifdy Caernarfon, XQS/1656/177
  4. William Martial Myddleton, Chirk Castle Accounts AD 1666-1753 (Manceinion, 1931), tt.112, 170
  5. Archifau Prifysgol Bangor, PFA/14/987; PFA/1/659; B.E. Howells, A Calendar of Letters Relating to North Wales (Caerdydd, 1967), tt.130-2, yn dyfynnu LlGC Llanfair a Brynodol 216, 219
  6. B.E. Howells, A Calendar of Letters Relating to North Wales (Caerdydd, 1967), t.130, yn dyfynnu LlGC Llanfair a Brynodol 216
  7. William Martial Myddleton, Chirk Castle Accounts AD 1666-1753 (Manceinion, 1931), t. 170
  8. Crynodebau Prentisiaeth Llundain, 1675, 1678
  9. Archifdy Caernarfon, XQS/Treth aelwyd
  10. Archifdy Gwladol, Dogfennau Llys Braint Caergaint, Reeve 80
  11. J.E. Griffith, Pedigrees of Anglesey and Caernarvonshire Families (Horncastle, 1914), t.208