Marged Uch Ifan

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 13:06, 14 Mawrth 2023 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Roedd Marged Uch Ivan, neu Margaret ferch Evan ac hefyd Peggy Evans yn gymeriad unigryw a oedd yn byw yn Nhelyrnia, Nantlle.

Yn ei chyfnod, roedd nifer yn canu cerddi amdani ac yn adrodd ei hanesion ar draws Cymru. Yn ôl y Parch. W. R. Ambrose[1], yr oedd hi’n medru gwneud llawer gyda’i llaw ac yn medru adrodd a chanu alawon Cymreig a diddanu llawer o’i hymwelwyr. Yr oedd y teithiwr Thomas Pennant wedi mynd i’r Telyrniau i’w gweld, ond cafodd ei siomi gan nad oedd hi gartref y tro hwnnw. Yr oedd hi wedi gwneud enw iddi hi ei hun fel cymeriad yn yr ardal, ac ar ei marwolaeth yn 1788, cofnodwyd y bennill isod ar ei charreg fedd;

Here lies Peggy Evans who saw ninety-two,

Could wrestle, row, fiddle and hunt and fox too

Could ring a sweet peal, as the neighbourhood tells

That would charm your two ears – had there been any bells!

Enjoyed rosy health, in a lodging of straw,

Commanded the saw-pit, and wielded the saw,

And though shes departed where you cannot find her

I know she has left a few sisters behind her.”

Ni ddylid cymysgu'r Marged Uch Ifan hon (marw 1788) gyda dynes arall a fu farw bron i ganrif ynghynt, sef Margaret ach Evan, Tal-y-mignedd Uchaf, nain Angharad James, a fu farw ym 1690.[2]

Cyfeiriadau

  1. W.R. Ambrose, Hynafiaethau, Cofiannau a Hanes Presennol Nant Nantlle (Penygroes, 1872).
  2. LlGC, Dogfennau Profiant Bangor, B1690-72