Angharad James

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 19:09, 12 Mawrth 2023 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Ganwyd Angharad James yn y Gelli-ffrydiau, Nantlle, 16 Gorffennaf 1677, yn ferch i James Davies ac Angharad Humphrey, merch Tal-y-mignedd Uchaf.[1] Priododd, yn ferch ifanc 20 oed, â William Prichard (g.1638), ffermwr Penamnen ym mhlwyf Dolwyddelan, oedd tua 60 oed. Cawsant dri o blant: Gwen William (1703-1765); Dafydd William (1713-1724); a Catherine William, (g.1716). Cyfansoddodd Angharad James farwnad i'w mab, Dafydd. Ar ôl colli ei gŵr ym 1718,[2] bu'n ffermio ar ei chownt ei hun ym Mhenamnen am weddill ei hoes. Mae gweddillion ei ffermdy i'w weld o hyd ar ochr y ffordd sy'n mynd o Ddolwyddelan i ben draw cwm Penamnen.

Yn ôl y sôn, roedd hi'n delynores fedrus ac yn deall y gyfraith yn dda. Roedd ganddi wybodaeth o Ladin a Saesneg. Mae ei henwogrwydd yn dibynnu heddiw ar ddau beth: roedd hi'n fardd o gryn allu, gan adael llawysgrifau o farddoniaeth ar ei hôl - peth prin ymysg merched y 18g yn ddi-os; roedd hi hefyd yn hen hen nain i'r pregethwr grymus John Jones, Tal-y-sarn (a aned yn fferm Tan y Castell, Dolwyddelan) - ac, o ran hynny, yn un o hynafiaid William Hobley, y pregethwr, diwinydd a hanesydd o Gaernarfon.

Bu farw yn Awst 1749 ac fe'i claddwyd yn Eglwys Dolwyddelan.[3]

Mae ei hanes i'w gael yn erthygl Nia Mai Jenkins, A’i Gyrfa Megis Gwerful’: Bywyd a Gwaith Angharad James, (Llên Cymru, Cyf. 24 (2001)). Ysgrifennwyd nofel, Merch y Gelli, yn seiliedig ar fywyd Angharad James, gan Fflorens Roberts (Gwasg Pantycelyn, 2002).

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. LlGC Dogfennau Profiant Bangor, B1690-72W
  2. Gaslight Family History, Williams, Bracher, Marley families [1] adalwyd 03.05.2018
  3. Wicipedia. [2]