Hugh R. Owen (Tenorydd Llyfnwy)

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 20:51, 10 Mawrth 2023 gan Ap Tudno (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Roedd H.R. Owen, a arddelai'r enw llwyfan "Tenorydd Llyfnwy" ar adegau, yn unawdydd a berfformiodd yn gyson mewn cyngherddau yn Nyffryn Nantlle yn y blynyddoedd o gwmpas 1880. Credir iddo hefyd fos yn arweinydd ar Gôr Llanllyfni am gyfnod. Ni cheir sôn amdano yn y wasg leol ar ôl 1880, ond nid yw'n hysbys a symudodd i ffwrdd, marw neu ymddeol o'r byd cerdd.[1]

Roedd o leiaf ddau arall a arddelai'r un enw llwyfan. Ym 1886, enillodd G.W. Jones (Tenorydd Llyfnwy) wobr mewn cyfarfod llenyddol y Methodistiaid yn Efrog Newydd[2]; a nodir yn Y Drych fod "Mr Davies" (Tenorydd Llyfnwy) oedd yn "ddatganwr rhagorol" wedi marw ym Maesteg ym 1895.[3] Dyna'r unig gyfeiriadau sydd wedi dod i'r fei am y ddau wron hyn, ac nid yw'n hysbys beth oedd eu cysylltiad â Dyffryn Nantlle, os oedd yna gysylltiad o gwbl.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. Y Genedl Gymreig, pasim, 1877-1880
  2. Y Drych, 13.12.1886, t.5
  3. Y Drych, 19.12.1895, t.8