Atgofion Y Parchedig John Owen am Glynnog

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 16:44, 8 Mawrth 2023 gan Cyfaill Eben (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Yn ei gyfrol Rolant y Teiliwr ac Ysgrifau Eraill mae'r Parch. John Owen yn ymdrin â rhai o gymeriadau Clynnog yn ystod y cyfnod y bu ef yn fyfyriwr yno. Un ohonynt oedd Dafydd Parri, a ddaeth yn llanc un ar bymtheg oed i weini at John Jones, Tynycoed, a oedd yn berthynas iddo. Bu yno am rai blynyddoedd nes iddo briodi a symud i ffermio Tanrallt (lle bu John Owen yn lletya yn ystod ei gyfnod yn fyfyriwr yn Ysgol Ragbaratoawl Clynnog). Roedd Dafydd Parri yn gwmnïwr diddan a chyda stôr o ddywediadau a sylwadau bachog a hiwmor difalais a diniwed. Cafodd cenedlaethau o fyfyrwyr yr Ysgol groeso cynnes a lle da yn Nhanrallt. "Gwresogodd Dafydd Parri a'i briod hawddgar galon aml un ohonynt. Chwareuodd ef aml i gast diniwed â rhai o'r "hogiau", a chwarddai o wadn ei droed i'w gorun os llwyddai ei ddichell ddi-frad." Cafodd oes faith a dymunol; bu farw 6 Chwefror 1912 a'i gladdu ym mynwent Capel Uchaf.

Ceir hanesion bach diniwed hefyd am rai fel John Jones, Cilcoed Uchaf a'i gymydog John Owen, Cilcoed Isaf. Lletyai rhai o fyfyrwyr yr Ysgol yno a byddent yn hoffi chwarae triciau ar yr hen frawd, megis symud y das redyn a'i gosod dros ffenestr y siambr lle cysgai. Pen ddeffrôdd John Owen fore trannoeth roedd y siambr yn dywyll bits; credai yntau ei bod yn dal yn nos a bu yno tan ar ôl cinio.

Roedd William Jones, Tynycoed dipyn cyfoethocach ar sail maint ei ffarm ac wedi cael cryn dipyn mwy o addysg. Bu'n ŵr amlwg am rai blynyddoedd yng nghapel Ebeneser, Clynnog, a symudodd yn ddiweddarach i Fodaden, Llanwnda, gan ddod yn ŵr o bwys yn yr ardal honno drachefn ac o wasanaeth i gapeli Rhostryfan a Glanrhyd.

Un arall difyr ei gwmnïaeth gyda digon o hiwmor iach oedd William Roberts y Siop, na fyddai'n brin o dynnu coes y myfyrwyr. Un tro, gofynnodd i un ohonynt, a letyai yn y Tŷ Capel, faint o wyau y gallai eu bwyta gyda'i gilydd. Pan ddywedodd hanner dwsin, fe'i gwahoddodd i swper yn y Siop a rhoi hanner dwsin o wyau wedi'u berwi iddo. Bwytaodd yntau hwy'n awchus - ac ychydig iawn o gwsg a gafodd ei gyd-letywyr yn y Tŷ Capel y noson honno! Dro arall, cyrhaeddodd casgen fawr yn cynnwys wyth can pwys o driagl y Siop ar drol o Gaernarfon. Wrth geisio ei dadlwytho chwalodd ei gwaelod ac arllwysodd afon o'r hylif du ar hyd y lôn ac i gyfeiriad porth y fynwent, gyda'r pentrefwyr allan gyda photiau a sosbenni'n ei gasglu.[1]

Cyfeiriadau

1. Ceir yr hanesion difyr hyn a llawer mwy yn: Y Parch. John Owen M.A., Caernarfon, Rolant y Teiliwr ac Ysgrifau Eraill, (Caernarfon, 1926), tt.26-54.