Catherine Bulkeley

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 09:50, 27 Chwefror 2023 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Yn ôl yr hanes roedd Catherine Bulkeley (neu "Catrin") o Eithinog yn gariad i Rhys o Elernion. Un diwrnod, a Rhys yn marchogaeth i gyfarfod Catrin, cododd storm enbyd. Mentrodd rydio Afon Llyfnwy ond roedd y llifeiriant yn rhy gryf iddo a'r gwynt yn ei erbyn. Methodd yn glir â chyrraedd y lan ac fe'i boddwyd yn y fan a'r lle er mawr drallod i bawb ac i Catrin yn arbennig. Boed hynny fel y bo, nodir yn yr unig ffynhonell sy'n sôn amdani, sef llythyr at yr ynadon dyddiedig 1611 oddi wrthi, mae hi'n cynnig arian i godi pont dros rhyd yn Afon Llyfni, mae hi'n galw ei hun yn "Katherine Bulkley o Edern, gweddw".

Yn ddiweddarach codwyd pont (sef Pont y Cim) ar y safle y digwyddodd y trychineb ac arni'r ysgrifen: "Catring Buckle hath give twenty poundes to mack this brighe 1612".

Yng nghyflawnder yr amser gwisgodd yr ysgrifen a phenderfynodd Ysgol Brynaerau osod llechen ar ganllaw'r bont a thorrwyd y llythrennau gwreiddiol uchod arni i gofnodi'r hanes.

Cyfeiriadau

W. Ogwen Williams, The County Records, (Trafodion Cym. Hanes Sir Gaernarfon, cyf.10 (1949)), tt,66-7