Tyddyn Hywel

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 11:41, 24 Chwefror 2023 gan Cudyll (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Mae Tyddyn Hywel yn bentrefan neu dreflan fach rhwng pentrefi Gurn Goch a Threfor. Saif y ddwy ochr i'r ffin rhwng plwyfi Clynnog Fawr a Llanaelhaearn.[1] Nid yw ar y briffordd, ond yn hytrach o bobtu'r lôn gefn heibio i fferm Parsal rhwng y lôn fawr a'r môr. Casgliad o ryw ddwsin o dai sydd yno. Am gyfnod tua dechrau'r 20g. bu tramffordd yn rhedeg trwy'r dreflan ar ei ffordd i gei ar lan y môr a oedd yn cludo cerrig ithfaen o Chwarel Tyddyn Hywel ar lethr y mynydd i'r dwyrain. Mae nifer o olion i'w gweld sydd yn gysylltiedig â'r gwaith o symud y cerrig o'r chwarel i'r llongau wrth y cei.

Ymddengys i'r dreflan a'r chwarel gael eu henwi ar ôl fferm Tyddyn Hywel, sydd ar droed y mynydd yr ochr draw i'r lôn fawr.[2]

Cyfeiriadau

  1. Map Ordnans 1889
  2. Gwybodaeth gan un o'r cyn-breswylwyr