Dinas Garage

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 17:03, 21 Chwefror 2023 gan Rhygyfarch (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Sefydlwyd y busnes gwreiddiol ‘Dinas Garage’ yn 1931Gwall cyfeirio: Tag <ref> annilys; rhaid i dagiau 'ref' heb enw iddynt gynnwys testun gan y brodyr Harry Hywel Parry (1913 - 1991) a Robert Hughes Parry (1917- 1983) (2). Ar y pryd roedd y ddau yn gweithio i fusnes cludo eu tad ‘J.H.Parry and Sons’. Wrth drin y fflyd loriau cludo da byw a chynnyrch amaethyddol magwyd eu sgiliau cynnal cerbydau yn gynnar. Sefydlwyd eu gweithdy cyntaf yng ngarej cyfagos i’w cartref - Glyndŵr, Rhosisaf.

Yn ystod yr Ail Ryfel Byd gweithiodd H.H.Parry yn y diwydiant cynhyrchu rhannau awyrennau (3) gan fagu sgiliau peirianyddol ychwanegol. Yn y 1940au (4) prynwyd llain o dir yn Llanwnda ger y briffordd i Gaernarfon - rhwng llinell Rheilffordd Ucheldir Cymru a rhes newydd o dai adeiladwyd cyferbyn a ‘Menai View’ a Thafarn y Mount Pleasant. Bu’r safle yn flaenorol yn lleoliad garej i gwmni bysiau lleol o Garmel.

Dros amser R.H.Parry bu’n arwain ar y busnes cludo a’i frawd ar ddatblygu’r garej. Mae hysbysebion cynnar yn nodi ‘H.H.Parry, Automobile Engineer’(5) ac enw'r modurdy oedd ‘Dinas Garage’. O’r cychwyn gwerthwyd ceir ail-law cyn i’r busnes ddod yn asiant i gwmni cynhyrchu ceir newydd Austin a faniau Bedford (rhan o Vauxhall Motors). Gwerthwyd tractorau, motobeics a beiciau ‘Ladies & Gents’ hefyd.

Gyda thwf y busnes codwyd adeilad pwrpasol gydag ystafell arddangos ceir, adran gwerthu partiau ynghyd â chyfleusterau gwerthu tanwydd. Ymestynnwyd y busnes yn y 1960au i safleoedd eraill gan gynnwys ‘Caernarfon Garage’, Bontnewydd (Siop Morrisons Daily, 2023), ‘Prince of Wales Garage’, Ffordd Bangor, Caernarfon (Moduron Menai, 2023), safle ‘Dinas Garage’ ym Môn, ar Lon Glanhwfa, Llangefni; a safle arddangos a gwerthu yng nghanolfan siopa Caeffynnon [‘Wellfield’], Bangor.

Yn ystod yr 1970au a 1980au daeth y cwmni yn asiant i werthu ceir Ford a Vauxhall gan ddatblygu yn un o fusnesau cynnal a gwerthu cerbydau mwyaf yr ardal. Mae hysbyseb yn 1984 yn nodi enwau’r staff gwerthu ceir sef - Peter Thomas, H.H.Parry, Ronnie Hughes, Owen Pritchard, Peris Wyn Jones, Miss Menna Williams (6). Erbyn dechrau’r 1990au roedd y cwmni yn cyflogi mwy na thrideg o staff (7) a bu angen adeiladu ystafell arddangos ychwanegol a gweithdai cynnal ceir newydd ar y safle yn Llanwnda. Chwalwyd y modurdy gwreiddiol i godi adeiladu manwerthu yn 2001(8).

Yn dilyn marwolaeth H.H.Parry a’i fab yng nghyfraith Peter Thomas trosglwyddwyd y busnes garej i ‘Slaters’ (2006) (9) - un o’r cwmnïau gwerthu a chynnal ceir mwyaf yn y rhanbarth. Defnyddiwyd yr uned manwerthu gan siop dillad ac offer gweithgarwch awyr agored (Gelert hyd 2012, Millets hyd 2022, wedyn Go Outdoors). Defnyddir yr hen weithdai gan gwmni ‘Byw Bywyd’ sy’n gwerthu a llogi offer all helpu pobl hŷn a phobl anabl. Erys rhan o’r safle at ddefnydd ‘Moduron Menai’ gwerthwyr ceir ail law a’i berchennog Dylan Thomas, ŵyr i H.H.Parry - mae rhan o’r safle felly yn parhau ym meddiant disgynnydd un o’i sefydlwyr dros 90 o flynyddoedd yn ôl.(10)