Ysgolion Cylchynol

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 16:58, 17 Chwefror 2023 gan Cyfaill Eben (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Roedd yr Ysgolion Cylchynol yn gynllun a sefydlwyd gan y Parch. Griffith Jones, Llanddowror, o ddechrau'r 1730au hyd ei farwolaeth ym 1761, i ddysgu plant ac oedolion i ddarllen. Y prif nod oedd eu galluogi i ddarllen y Beibl a llyfrau Cymraeg crefyddol eraill. Sefydlid yr ysgolion mewn mannau cyfleus (eglwys y plwyf yn aml) mewn ardaloedd ledled Cymru gydag athrawon teithiol yn rhoi hyfforddiant ynddynt. Erbyn 1761 roedd 3,325 o ysgolion wedi cael eu sefydlu mewn 1,600 o fannau a thua 250,000 o bobl - sef dros hanner trigolion y wlad ar y pryd - wedi eu hyfforddi i ddarllen ynddynt. Y prif noddwyr oedd Syr John Phillipps, Castell Picton a Madam Bridget Bevan, Talacharn. Parhaodd Madam Bevan â'r cynllun ar ôl marwolaeth Griffith Jones a phan fu farw gadawodd £10,000 at barhau'r gwaith - swm enfawr ym 1780.

Cynhaliwyd un o'r ysgolion hyn yn ffermdy Cefn Berdda (Cefn Buarthau) ym mhlwyf Llanaelhaearn yn ystod gaeaf 1755-56. Addysgwyd 34 ynddi. Bu ysgolion cylchynol hefyd yn eglwys Llanaelhaearn rhwng 1749 a 1773 ac addysgwyd tua 380 o ddisgyblion yn ystod y cyfnod hwn. Un o athrawon Griffith Jones yn Llanaelhaearn oedd curad y plwyf, Ellis Thomas, a chafodd bob cefnogaeth gan y rheithor, Richard Nanney, Elernion. Ym 1758 dywedir yn yr adroddiad blynyddol ar yr ysgolion hyn, sef y Welch Piety, mai un G_ J_ oedd yn gofalu am yr ysgol ac ar 17 Ionawr y flwyddyn honno anfonodd Nanney lythyr at Griffith Jones yn disgrifio'r ysgol yn Llanaelhaearn gyda'i naw disgybl, gan ddweud "Mi a'u harholais hwy oll un boreu, a chefais rai yn sillebu ac ereill yn darllen yn weddol dda ..."[1]

Cyfeiriadau

1. Geraint Jones, 'Rhen Sgŵl, (Llyfrau Bro'r Eifl, Trefor, 1978), tt.7-8.