Atgofion Percy Ogwen Jones am Goleg Clynnog

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 21:47, 3 Chwefror 2023 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Mae'r dudalen hon wedi ei diogelu gan ei bod yn drawsysgrif (wedi'i golygu) o waith gwreiddiol. Os byddwch am ychwanegu ffeithiau, neu gywiro unrhyw camsyniad, anfonwch e-bost at wiciuwchgwyrfai@talktalk.net neu nodwch eich sylwadau ar y dudalen sgwrs, ar gyfer sylw gan y Gweinyddwyr. Gellwch hefyd nodi gwybodaeth ychwanegol ar dudalen briodol cyffredinol, megis Y Groeslon.

Mae dolennau at dudalennau eraill yn gweithio yn yr un modd ag ar dudalennau eraill.

"Cofio Clynnog"

Yr oedd peth anturiaeth yn y syniad o fynd i Glynnog, er lleied y pellter. Yn un peth fe berthynai peth rhamant ynglŷn â’r lle ac yr oedd i'r ysgol a gynhelid yno draddodiad ac enwogrwydd, o leiaf ymhlith y Methodistiaid Calfinaidd. O bryd i bryd deuai 'stiwdant' o Glynnog i bregethu yn y cylch, ac fel coleg i bregethwyr y synnid yn gyffredin am yr ysgol honno. Yn wir felly y syniaswn i amdani, nes i'r holi ynghylch y modd a'r lle i gael addysg bellach i un a adawodd ysgol yn ifanc fy ngoleuo y gallai'r neb a ddymunai fynd yno ar ei draul ef ei hun; nid oedd yn gyfyngedig o gwbl i bregethwyr, eithr yn darparu addysg bellach ar gyfer mynediad i goleg diwinyddol neu i brifysgol, neu i gyfarfod gofynion cychwyn ar unrhyw alwedigaeth.

Er mwyn cyfarfod gofynion rhai â'u bryd ar y weinidogaeth y sefydlwyd ac y cynhelid Ysgol Clynnog, dan nawdd cyfarfodydd misol Sir Gaernarfon. Fe dalai'r cyfarfodydd misol draul addysg y rhai a gymeradwyid, ac yr oedd cyfarfodydd misol eraill yn anfon myfyrwyr yno a thalu am eu haddysg. Ond fe allai eraill, myfyrwyr enwadau eraill neu rai'n bwriadu cymhwyso eu hunain at alwedigaethau eraill fyned am gwrs i Glynnog, ond fe dalent hwy’r tal penodedig (a oedd yn rhyfeddol o isel) i’r prifathro. Cyfrifoldeb y myfyriwr oedd chwilio am lety, a thalu amdano, ac yr oedd nifer o dai yn y cylch yn cymryd nifer o fyfyrwyr. Yr oedd bob amser chwech o fyfyrwyr yn aros yng Nghamfa'r Bwth, yr enwocaf mae'n debyg o letyai myfyrwyr. Enw Maes Glas a roed i mi fel lle y cawn aros yno, yr agosaf i Gamfa’r Bwth, ac ar un adeg yr oeddwn yno'n un o dri, ond am y rhan fwyaf o'r amser yn un o ddau. Yn un o ddau? Nage, nid yn hollol. Yr oedd yno ferch ifanc hefyd yn aros. Athrawes yn ysgol gynradd y pentref ydoedd hi, a'i chartref yn Harlech. Yr oeddem yn rhannu’r ystafell fyw, cegin gysurus tŷ ffarm, a berchenogid gan un Mrs Jones, a oedd yn chwaer i'r cerddor enwog John Henry, Lerpwl (yn frodor o Borthmadog). Lletyai rhai yn y pentref, ac eraill mor bell allan â Phenrhiwiau a Chilcoed.

Yr oedd Camfa'r Bwth, Maes Glas, Bryn Eisteddfod, Penrhiwiau, Cilcoed, Tŷ Isa, Tŷ’r Gof, Tŷ capel, Tŷ Cerrig, Y Teras mewn gwirionedd yn rhan o Ysgol Clynnog fel sefydliad. Dyma'r ’Halls of Resìdence' cydnabyddedig, ac yr oedd y gwragedd caredig a'u pioedd yn ystyried y cysylltiad agos oedd rhyngddynt a'r ysgol, os nad yn anrhydedd, yn rhan o'u bywyd. Fel rhan o'r teulu yr ystyrient eu ,stiwdants,, hogia digon drwg yn aml, ond gwae'r neb a ddywedai air am stiwdants yr un o'r gwragedd hyn. Rhan o lên aelwyd pob un o'r tai hyn oedd hanes y myfyrwyr a fu’n aros yno - eu llwyddiant wedi gadael, eu clod fel pregethwyr, eu dawn a'u dysg, ie a'u direidi neu eu nodweddion hefyd. Mi dybiaf i fod hyn oll yn rhan o draddodiad Ysgol Clynnog, yn rhan o'r ysgol ei hun mewn gwirionedd, ac yn cyfrannu at rywbeth anniffiniol a alwaf yn Ysbryd

Clynnog' a roddai i'r ysgol rhyw ymdeimlad o frawdoliaeth glos a theyrngar na chwalai wedi myned o'r stiwdants i bob cwr o'r wlad. Fe erys y 'chdi' a ’chditha' ar ôl hanner canrif i'r nifer cymharol fychan sydd heddiw'n aros. Nid brawdoliaeth neu urdd hogiau'r weinidogaeth chwaith mohoni - eithr brawdoliaeth Clynnog, pob stiwdant ynddi yn gwbl gydradd a chydfreintìedig, gyda'r gwahaniaeth bwriad yn ddiddorol, ond yn gwbl ddibwys.

Yr oedd hi’n gwbl wahanol i ysgol eilradd neu ysgol ramadeg. Yr oedd hi'n llawer tebycach i goleg, ac er mai damweiniol, mae'n debyg, oedd anrhydeddu’r bechgyn â'r teitl o stìwdants, yr oedd y term yn eithaf addas, heb ynddo rithyn o snobyddiaeth neu swanc. Tebyg iawn oedd y curriculum i eiddo ysgol ramadeg. I bob pwrpas, at basio’r Matric yr anelid, neu arholiad mynediad i goleg diwinyddol, a oedd yn weddol debyg i safon matric, ond yn gofyn am Roeg. Un o'n hoff 'emynau' oedd

Ni fydd Lladin yn y nefoedd 

Ni fydd Groeg yn nhŷ fy nhad Ni ddaw Euclid nac Algebra Fyth o fewn terfynau'r wlad

   O na wawriai 

Bore llosgi'r rhain i gyd.

Am ein rhaglen gwaith, lle annhebyg iawn i'r nefoedd ydoedd Clynnog, er tebygu yn ei hysbryd. Heblaw Lladin, Groeg, Ewclid ac Algebra, gallai'r myfyriwr ddewis y pwnc a fynnai, ac wrth reswm yr oedd pob un ohonom yn gwneud Cymraeg a Saesneg a Hanes. Dewisais i gymryd Daearyddiaeth yn lle Groeg, am i'r berfau fy nychryn ar y dechrau, a chael crap ar y llythrennau'n unig a wneuthum, rhyw ddigon i ohebu ag ambell gyfaill yn Gymraeg mewn llythrennau Groeg. Mi edifarheais droeon am fod mor llwfr.

Nid dim yn y rhaglen gwaith a wnelai Ysgol Clynnog yn wahanol i ysgol ramadeg, eithr yn hytrach y ffordd o weithio. Yr oedd rhai gwersi'n ddigon tebyg, ond rhaid oedd i bob un wneud llawer mwy o waith ar ei liwt ei hun. Dim ond ar bedwar diwrnod o bob wythnos yr oeddem yn yr ysgol Dydd Llun y dychwelai'r myfyrwyr o'u cyhoeddiadau, a dydd Sadwrn oedd y diwrnod mynd am y cyhoeddiad, weithiau'n bell i Fôn, i Feirion a Dinbych. Ac yr oedd y prifathro ( a'r unig athro tra bum i yng Nghlynnog ) yntau yn ei chyrchu hi i gyhoeddiad bob Sul hefyd, canys gweinidog oedd y Parch J Lloyd Williams a ofalai am Glynnog, ac a anelai at gael pob un o'i fyfyrwyr i fyny i gyffiniau'r matric mewn dwy flynedd, beth bynnag oedd eu cyraeddiadau ar gychwyn eu gyrfa. Rhaid oedd i bob un a fynnai 'ddod yn ei flaen', neu osgoi cael ei yrru i'w ffordd ei hun gyda’r gorchymyn "Please shut the door on the outside", weithio'n weddol egnïol ar ei liwt ei hun, a gofalu nad oedd un wers yn yr ysgol wedi ei gollwng i golli. Yn naturiol fe fyddai yna beth ymgynghori rhwng myfyrwyr, ond dim rhyw lawer o gopïo, canys fe wyddai pawb yn rhy dda nad oedd hynny’n debyg o dalu.

Coleg ynte ysgol oedd Clynnog? 'Dwn i ddim yn iawn; hwyrach ei bod yn gyfuniad damweiniol o'r ddau. 'Ta waeth, stiwdants oeddem ni i'r pentrefwyr ac i'r eglwysi a roddai gyhoeddiadau, a dyna mae'n debyg oeddym ni yn ein golwg ein hunain, heb gwestiyno a heb ymffrostio. Pa wahaniaeth nad oedd y safon a gyrhaeddem ar y diwedd ddim uwch na matric, nad oedd mor uchel â'r safon gadael ysgol eilradd heddiw? Fel paratoad ar gyfer gyrfa prifysgol neu unrhyw goleg go iawn, dichon ei bod yn rhagori ar y rhelyw o ysgolion gramadeg neu eilradd.

Os mai ar ein liwt ein hunain i raddau go helaeth yr oeddym yn gweithio, ar ein bwyd ein hunain yr oeddym yn byw yn y lletyau. Ac yr oeddym yn medru cael dau ben llinyn ynghyd yn weddol ar chweugain i ddeuddeg swllt, a heb fynd dros ben hynny, yr oeddwn i'n medru fforddio smocio pibell hefyd. Fe gawn i owns o faco eitha da am chwe cheiniog neu chwech a dimai. Roedd llawer mwy o fri ar y bibell nag ar sigarennau, ac un baco lled boblogaidd oedd Waverley a'r dyfyniad o nofel Scott yr un mymryn o lenyddiaeth a oedd ar gof y rhan fwyaf ohonom. Caem lety am ryw bedwar swllt yr wythnos. Rhyngom ni a phrynu glo a pharaffîn, rheidiau os am fod yn gynnes a gweld i weithio gyda'r nos. Cymryd ein twrn i brynu cant o lo a chyrchu galwyn o baraffîn a wnaem ni ym Maes Glas. A chan nad oedd glo ond rhyw swllt neu ddeunaw y cant, 'roedd y baich yn weddol ysgafn. Yr oedd bwyd yn rhad, a phan fynnem fe gaem rwdan neu foron am ddim, ac ni fyddai Mrs Jones Maes Glas byth yn rhoi'r dysen ar y bil. A dyna air newydd i mi yr adeg honno. Ar y cyntaf methwn â deall pam y gofynnai a gymerwn i 'deisen' i ginio. Rhywle o swllt i ddeunaw a gostiai pwys o ymenyn - fy nogn i am wythnos fel rheol Am naw ceiniog fe geid pwys o sosejys, ac 'roedd modd cael ambell damaid blasus o borc neu fîff am bris isel iawn. Yr oedd ein byw mewn llety'n gyfuniad o fod ar ei fwyd ei hun ac o gyd-gyfrannu. Pob un yn cymryd ei dro i brynu 'sgram' i swper fyddai hi ym Maes Glas, ac yng Nghamfa'r Bwth hefyd. Byddai pennog coch - yr hen bennog coch go iawn - yn lled siŵr o gael bod ar y meniw un noson bron bob wsnos; ’roedd wnionyn wedi ei ferwi ac wedyn ei foddi mewn menyn yn ffefryn; ac yn eu tymor rwdan neu gloron wedi ei berwi Moeth, ond moeth eithaf aml, oedd tun samon neu sardîns. Yr oedd y moethau hyn, a hyd yn oed gig moch i frecwast bron bob bore, a thatws efo menyn neu gig bob canol dydd, o fewn cyrraedd y stiwdant a geisiai gadw'n agos at draul o chweugain yr wsnos. Yn sicr nid oedd y gwragedd a letyai fyfyrwyr yn elwa rhyw lawer, nac yn grwgnach dim chwaith. Rhan o'u ffordd o fyw oedd y cyfan, a rhan o draddodiad ardal oedd cadw stiwdants. Yr oedd Clynnog a'r ysgol yn un; nid ysgol yng Nghlynnog ond Ysgol Clynnog oedd, yr ysgol yn goleg a'r aelwydydd croesawgar yn neuaddau preswyl iddo.

Gŵr eithriadol ar lawer cyfrif ydoedd y Parch J Lloyd Williams, neu Lloyd Bach i ni. Athro heb ei ail, o leiaf i'r math o fechgyn a ddeuai i Glynnog am eu hyfforddiant. Brodor o Lerpwl, wedi graddio ym Mhrifysgol Llundain, ac yn cael y gair o fod yn fathemategydd rhagorol. Yr oedd yn rhannu ei fyfyrwyr yn ddau ddosbarth, rhai'r flwyddyn gyntaf a rhai'r ail flwyddyn. Trefnai ei raglen gwaith fel y gallai pob myfyriwr eistedd ei fatric ( neu arholiad mynediad i goleg diwinyddol) ar derfyn yr ail flwyddyn. Nid pob un a lwyddai, a gellid mynd yn ôl am drydedd flwyddyn. Fe gymerai'r ysgol i gyd gyda'i gilydd weithiau, i roddi nodiadau. Ei nodiadau ei hun oedd ganddo ar Hanes, Gramadeg Gymraeg, Saesneg, a rhoddai nodiadau hefyd ar y llyfrau gosod Lladin a Groeg. Ysgoldy capel y Methodistiaid oedd yr ysgol, heb ddim ond dau fwrdd du a chwpwrdd i awgrymu nad dim ond seiat a gynhelid yno. Eisteddai myfyrwyr y flwyddyn gyntaf un ochr a rhai'r ail flwyddyn ar ochr arall yr ystafell, a Lloyd Bach yn symud o'r naill ochr i’r llall fel yr oedd y gwersi'n galw. Rhoddai'r athro gryn sylw personol i bob un ohonom; dyna beth o gyfrinach ei lwyddiant, canys nid oedd deunydd rhy addawol ym mhob un o'i fyfyrwyr, a'r man cychwyn yno'n aml yn fan gadael ysgol gynradd yn bedair ar ddeg oed i fynd i weithio, gydag ambell un wedi bod am ychydig mewn 'cownti, ac anghofio’r rhan fwyaf.

Yr oeddwn i wedi bod am ychydig mewn cownti, ac ar gyfrif llwyddiant yn yr arholiad mynediad iddi wedi cael fy hun yn Fform 111. Nid oedd fawr o syndod mai geometri (neu Euclid) oedd fy mhwnc salaf - dim clem o gwbl, fel y profai rhyw bedwar marc allan o gant yn y terminal. Dywedais am y gwendid hwn wrth gychwyn yng Nghlynnog. Am bedair neu bum gwers yn Euclid mi gefais gryn sylw ganddo, ac fe'm cafodd fi'n ddiogel ddigon dros y pons asinorum. Erbyn diwedd y tymor cyntaf fe gefais dros 90 o farciau allan o gant, ac ar ddiwedd pob tymor wedyn yr oedd cant y cant yn sicr mewn dwyawr o arholiad teirawr. Yr oedd pob un ohonom dan ddyled i Lloyd Bach am ei sylw personol, am y cydymdeimlad oedd yng ngwe ei ddisgyblaeth lem, na oddefai ddiogi ond a oedd yn amyneddgar â dylni. Ffordd sicr allan o’i ffafr ydoedd diogi neu unrhyw esgeuluso ar waith. Ni ddisgwyliai i neb fod â'i drwyn ar y maen ar hyd yr amser, ac nid oedd mymryn o ddireidi rŵan ac yn y man yn ei daflu oddi ar ei echel. Mynd â'i ben tu ôl i ddrws y cwpwrdd, i guddio'i chwerthin, a wnaeth un tro pan ddaeth un o'r bechgyn i mewn ar ôl cinio a'i wyneb i gyd, ond ei drwyn, wedi ei bardduo'n berffaith. Yr oedd Rhyd-ddu - J Llywelyn Hughes - wedi cysgu ar ei gadair ar ôl cinio yng Nghamfa’r Bwth, a dyma Currie - Currie Hughes - a’r lletywyr eraill yn pardduo'i wyneb mor esmwyth fel na ddeffrodd, gan adael ei drwyn yn lân. Rhedodd negesydd i rybuddio myfyrwyr eraill i beidio drysu'r hwyl, ac ar ben yr amser deffro Rhyd-ddu a gweiddi "Mae'n hwyr am yr ysgol". Rhuthrodd Rhyd-ddu, a dod i mewn yn un o'r rhai hwyraf, a’i wyneb cyn ddued â'r tecell, ac eistedd mor llon â'r gog wrth fy ochr. Ni fu erioed yn gletach arnaf i beidio chwerthin dros y lle, yn arbennig pan roes bwn i mi a gofyn "Be ddiawl ma'r hogia 'ma’n chwerthin?" Cuddio'i ben am ychydig amser yn y cwpwrdd a wnaeth Lloyd Bach ac yna mynd ymlaen fel pe na fyddai dim o'i le. Fe gawsai lawn cymaint o hwyl ag a gawsom ninnau.

Gŵr â'i awdurdod yn sicr oedd Lloyd Williams, ac wrth edrych medrai ddweud llawer. Yr wyf yn siŵr fod direidi'r myfyrwyr yn rhoi llawer o hwyl iddo. Yr oedd yn adnabod ei fechgyn yn lled dda, ac ni thalai hi ddim i neb chwidlo wrtho am eu campau. Clywais mai chwerthin yn braf a wnaeth pan aeth rhywun ato i ddweud fel yr oeddwn i wedi cael fy ngheryddu'n gyhoeddus un bore Sul gan Allafon. Rhaid bod Alafon dipyn yn biwis y bore hwnnw, canys gwr rhadlon iawn ydoedd ef, a hawdd gwrando arno’n pregethu. A'r bore Sul hwnnw, yn yr Ysgoldy, yr oeddwn i'n gwrando'n astud ddigon yn y sedd gefn. Onid edrychwn ymlaen at glywed bardd a edmygwn gymaint? Ond yr oeddwn yn gwrando â'm llygaid yng nghau, ac un neu ddau o fyfyrwyr eraill yn fy ymyl Tybiodd Alafon fy mod yn cysgu, ac fe dybiai hefyd mai cyw pregethwr oeddwn, yn digwydd bod heb gyhoeddiad y Sul hwnnw. A dyma fo'n rhoi andros o gerydd i’r "cysgwr" tybiedig, fel un yn disgwyl i eraill wrando arno ef ond nad oedd am barchu arall trwy gadw’n effro a gwrando. Agorais fy llygaid a throi at Jac Hughes Tregarth a gofyn yn ddistaw "Pwy oedd yn ei chael hi ganddo?" "Y chdi," meddai Jac, er mawr syndod i mi. Yr oedd y stori'n hwyl wedyn i Lloyd Bach, a sylwasai nad oedd Jôs Maes Glas yn debyg o fod wedi cyffroi rhyw lawer dan chwip Alafon.

Daeth achos unwaith i mi ofni chwip Lloyd Bach ei hun, nid yn yr ysgol ond yn fy llety. Fe gyd-letywn â Ffowc (Williams) Tan'rallt, Talysarn, bachgen ychydig ieuengach na mi, ac un o'm cyfeillion pennaf, heblaw bod yn gyd-fyfyriwr. Un gyda'r nos yr oeddwn i wedi trefnu i fynd am Benygroes, ac arferwn yn aml gario ffon ysgafn a chylch arian arni. Ar gychwyn, cipio'r ffon o'r tu ôl i'r drws, heb amau bod Ffowch wedi iro saim ar ei bagl a'i gwthio i fyny'r simnai. Wedi canfod hyn, a throsglwyddo peth o'r huddygl hyd fy wyneb, 'roedd rhaid talu'r pwyth yn ôl. I'r afael â Ffowc, gan feddwl mai addas fyddai pardduo dipyn ar ei ben Ô1 ef. 'Roeddym yn yr ymrafael wedi cael ein hanner dan y bwrdd, yn gwneud gormod o drwst i glywed y gnoc a fu ar ddrws y ffrynt. A'r peth nesaf oedd gweld coesau rhywun yn dod trwy ddrws yr ystafell, a llais Lloyd Williams yn dweud,"Is tbis what's goìng onì? Jones, mae'r papurau ar y bwrdd". Gadawodd rhyw bapurau a oedd i fod i mi, ac ymaith â fo heb ddweud rhagor. Yn bur ddof y llusgem oddi dan y bwrdd, ond ni chlywsom ddim mwy am y peth. Mae'n siŵr fod Lloyd yn chwerthin yn braf wrth fynd o’r drws i'r lôn. Yr unig ganlyniad oedd dipyn bach o gwestiynau ar y gwaith yn yr ysgol drannoeth. Mae'n debyg y buasai hi wedi bod dipyn yn ddrwg petaem ni wedi methu ei fodloni gyda'r gwaith. Gweithio cydwybodol oedd maen prawf Lloyd Williams ar fyfyrwyr, 'roedd clod myfyriwr fel pregethwr hwyliog neu boblogaidd yn llai pwysig o lawer.

Os oedd Lloyd Williams yn athro awdurdodol, yr oedd hefyd yn llawn o hiwmor, yn medru goddef a mwynhau direidi'r bechgyn, a chael hwyl am ben pob tro trwstan, neu gamgymeriad digri. Yn y wers Roeg un tro, 'roedd Huws Tregarth yn methu cyfieithu rhyw air. I’w helpu dyma'r athro yn rhannu'r gair yn ddwy neu dair rhan, a chael gan Huws eu cyfieithu fesul un, yr hyn a wnaeth yn weddol ddibetrus. "Rŵan rŵan, Huws, be ddach chi’n neud wrth roi llaw ar wddf un?" gofynnodd, gan ddisgwyl cael 'tagu' neu 'fygu'. "Cusanu, syr," meddai Huws yn ddiniwed ddigon. "No, no, not always," oedd sylw Lloyd dan chwerthin, ac wyneb Jac Huws mor goch â thomato.

Myfyriwr a ofnai Lloyd Bach gryn dipyn oedd Garfield Owen (Bedyddiwr), ac yr oeddwn i wedi llwyddo i'w berswadio fod Lloyd yn cael pob stori am y myfyrwyr drwy'r wraig. Am ysbaid aeth Garfield i ofni Mrs Williams yn fwy na'r athro. Gwyddwn fod Garfield un noson wedi bod am dro hefo geneth o'r enw Maggie, a'i chartref heb fod ymhell o'r ysgol. A dyma ddweud wrth Gar fod Mrs Williams wedi ei weld yn mynd i gyfeiriad arbennig, ac y byddai'n siŵr o ddweud wrth Lloyd. Bore wedyn, yn y wers Ladin, cafodd Garfield drafferth i ynganu'r gair 'magnopere' yn ateb i gwestiwn llafar Lloyd, a'r hyn a ddaeth allan oedd 'Mag .. Mag.. Mag .. 'ac aeth pawb i chwerthin, a wyneb Gar yn gwrido a'i atal yn waeth. Credai’n sicr fod Lloyd yn gwybod am Maggie Cae'rpwsan, ac 'roedd o wedyn yn huawdl ei gondemniad ar ferched yn cario straes.

'Doedd dim rhaid i'r un myfyriwr a geisiai wneud ei waith ofni dim ar Lloyd Williams, na Mrs Williams chwaith. Yr oeddynt yn meddwl y byd o'r myfyrwyr ac yn cymryd diddordeb ynddynt. Gwae'r neb a roddai anair iddynt Bron bob Sul, byddai rhyw fyfyriwr a ddigwyddai fod yn yr Ysgol Sul yn siŵr o gael gwadd i de gan Mrs Williams. Gan fy mod i adre ac yn yr ysgol bob Sul, byddai fy nhwrn neu fy nghyfle i yn dod yn llawn amlach na'r lleill Ni ellid mynd i aelwyd fwy croesawus. Eto yr oedd rhai o'r bechgyn braidd yn swil Un felly oedd Garfield, ac yr oeddwn yn sâl eisiau ei gael yno efo mi. Un pnawn Sul disgwyliai Mrs Williams amdanaf wrth y drws, a'm gwahodd i de. Ymesgusodais, gan ddweud fy mod wedi hanner addo mynd efo Garfield, am ei fod ei hun. Bu'r awgrym yn effeithiol a dwedwyd wrthyf am ddod â Mr Owen hefo mi. 'Roedd Garfield o'i go las, ond ni feiddiai wrthod. Fe'i rhybuddiais o’r steil a fyddai yno, a'r cwpanau bach nad oeddynt fawr fwy na chwpan wy, ac iddo er ei berygl gymryd mwy na dwy gwpaned. 'Doedd dwy gwpaned felly'n ddim i un o fechgyn Stiniog; nac i minnau chwaith. Ac mi gymerais gryn hanner dwsin neu ragor, ac o weled fod Gar wedi stopio ar yr ail, awgrymais fod yn siŵr yr hoffai Mr Owen ragor; galwyd y forwyn i dendio rhagor ar Mr Owen. Cefais dafod iawn ganddo wrth droi am wasanaeth yr hwyr. Byth wedyn bu'n wyliadwrus iawn rhag bod yng nghyrraedd gwahoddiad arall.

Yr oedd dipyn bach o steil yn eithaf pwysig yng ngolwg Mrs Williams. Pa wraig gweinidog oedd heb fod felly yr adeg honno? Ond yr oedd hi'n garedig a chroesawgar, ac yn siwr yn cael peth hwyl ar draul rhai ohonom. Un tro fe alwodd ar ei nith, oedd yn aros yno ar wyliau, i'w chyflwyno i mi. Bu perfformiad poleit a minnau'n datgan llawenydd o gyfarfod y ferch. Dyma'r perfformiad yn stomp pan ddwedodd y fodryb, "Ond ella bod chi wedi cyfarfod eich gilydd". Yr oeddem, ac wedi bod am dro gyda'n gilydd rai gweithiau. 'Does dim amheuaeth na wyddai Mrs Williams yn iawn, ac fe fwynhâi’r penbleth.

Fel y sylwais, math ar ysgol yr ail-gyfle oedd Clynnog ar adeg nad oedd yr ysgol ramadeg yn rhydd i bawb, ac ar adeg pryd yr oedd amgylchiadau'n gorfodi rhai i adael ysgol ramadeg, neu cownti, ymhen dwy neu dair blynedd a chyn dod yn agos at fatric. Cyfyng oedd y dewis o yrfa i blant cyffredin, heb deulu cefnog neu rywun o ddylanwad i’w gyrru ymlaen a rhoi cyfle iddynt. I chwarel a phwll glo, i weithdy saer neu siop, neu aros adref ar fferm, dyna oedd i liaws o rai a fuasai heddiw'n llithro’n esmwyth drwy ysgol a choleg i swydd yn ateb eu cymhwyster a'u dyhead. I rai o dueddiadau crefyddol, yn ddiweddarach fe ogwyddid at y weinidogaeth, yn wir fe ddylanwadid ar aml lanc o dalent i feddwl am hynny. Fe ddylanwadai rhieni efallai, ac fe hyrwyddai arweinwyr eglwysig yr arwydd lleiaf o'r gogwydd hwn. Yn naturiol, fe ymfalchïai eglwys mewn 'codi pregethwr', fel yr ymfalchïai rhieni mewn 'magu pregethwr'. Yr oedd pregethwyr o fri yn arwyr i'r ifanc. Am lawer rheswm yr oedd swyn yn y weinidogaeth. Yr oedd ei gwaith a'i chyfle hefyd yn apelio at ddelfrydiaeth, delfrydiaeth iach a diffuant yr ifanc. Purion cofio hefyd na ddarfuasai dylanwad Diwygiad Evan Roberts eto. Cynnyrch yr awyrgylch a ddilynodd y Diwygiad hwnnw oedd fy nghyfoedion i yng Nghlynnog, er y gallai deng mlynedd o fwlch fod rhwng rhai ohonynt a'i gilydd. Yr oedd eu diffuantrwydd a'u gonestrwydd yn eglur ddigon i mi, ac yn eglurach efallai am nad oedd dim sych dduwioldeb yn perthyn iddynt. Ni chlywais i yr un erioed yn ymffrostio yn ei 'alwad' fel rhywbeth arbennig a goruwchnaturiol, nac yn honni bod yn dadlewch na neb arall neu'n 'bechadur gwaetha' wedi ei achub fel pentewyn o'r tân. Syniadau mwy neu lai uniongred oedd eu syniadau, a gawsant o'u cymdeithas, ac o'r traddodiad y maged hwy ynddo. Ni olygai unrhyw wahaniaeth syniad ddim chwerwder nac anoddefgarwch, ac ni chefais i fod dim gwahaniaeth rhwng rhai o wahanol enwadau. Elai myfyriwr o un enwad yn aml i lenwi pulpud enwad arall. Ac yr oedd rhai o bob enwad yno - Methodistiaid, Annibynwyr, Bedyddwyr, Wesleaid, gyda chryn hoffter at yr Eglwys Esgobol yn un o'r Methodistiaid. Yn wir ar un adeg, bwriadai droi at ei hoffeiriadaeth hi, ond mynd yn enwog a phoblogaidd fel gweinidog Methodist a wnaeth.

Tua deg ar hugain o fyfyrwyr oedd gyda mi yng Nghlynnog, yn amrywio o 17 i tua 30 o ran oedran. Yr oedd un 30 oed yn 'hynafgwr’ yn ein plith. Yr oedd dyfalu oed un yn dasg gyson, yn dasg nas setlwyd byth. Arferai’r ddau hynaf yn aml fynd am dro ar ôl swper, ac wrth wahanu tua hanner y ffordd thwng eu dau lety byddent weithiau'n rhoi tro ar ryw dôn emyn, ac yr oeddynt yn lled hoff o ’Yn y dyfroedd mawr a'r tonnau'. Gan fod y llecyn ymwahanu’n digwydd bod wrth waelod gardd Maesglas, a bod canghennau coeden yn taflu dipyn uwchben y ffordd, yr oedd yn eitha cyfle am dipyn bach o hwyl. I ddisgwyl y ddau ganwr yn ôl, 'roedd dau arall wedi dringo'r goeden efo bwcedaid o ddŵr. Daethpwyd at yr emyn ymadawol, a dyma gynnwys y bwced yn arllwys o'r goeden i amennu *Yn y dyfroedd mawr a'r tonnau' a pheri brwd o eiriau oedd yn aralleiriad llwyr ar eiriau'r emynydd.

Ni ollyngid i golli'r un cyfle am hwyl yng Nghlynnog. Pentref tawel ac anghysbell oedd Clynnog, ond yr oedd yno ddigon o fywyd ym mlynyddoedd bri'r ysgol. Yr oedd deg ar hugain o fechgyn ifanc llawn afiaith, yn medru ymdoddi'n rhwydd yn gymdeithas iach, yn ddigon i greu awyrgylch nad oedd reswm i neb ddiflasu aml. Yr oedd pentref ac ysgol yn ateb ei gilydd i'r dim; am dymhorau'r ysgol y bechgyn oedd piau'r pentref a'r pentrefwyr oedd piau'r bechgyn.

Yr oedd rhai o'r myfyrwyr yn fwy direidus na'r lleill, ac yn blaenori mewn triciau a chastiau, ac felly’n peri ymlid pob undonedd o fywyd, a chyfrannu at greu'r ysbryd Clynnog y soniais amdano; dyna ran o draddodiad Ysgol Clynnog, rhan nas anghofid yrhawg. Fe fyddai newyddian a ymddangosai braidd yn ddiniwed ar y cychwyn yn siwr o gael ei dynnu allan yn fuan iawn. Fe all difrifwch a direidi ddygymod â'i gilydd yn lled dda, er bod rhai sy'n grefyddol yn eu meddwl eu hunain yn bur amharod i gydnabod hynny. Siawns go wael oedd i neb yng Nghlynnog felly osgoi syrthio’n aberth i dric neu hwyl ei gyd-fyfyrwyr. Yr oedd y neb a chwaraeai driciau'n eithaf tebyg o gael ei dalu'n ôl yn ei goin ei hun, ac ambell waith dâl hefo llog.

Un noson yr oedd Ffowc a minnau'n eistedd wrth y tân y Maesglas, yn mynd dros ryw wers, a chael y smoc olaf cyn myned i glwydo, canys yr oedd hi wedi hanner nos. Dyma glywed rhyw sŵn o'r tu allan. Gwrando'n astud. Dyna guro ffyrnig ar y drws, a sŵn traed rhywrai'n cilio. Mynd yn araf a distaw at y drws, ond y funud yr agorwyd ef dyma glamp o fwch gafr yn rhuthro heibio i ni, ac yn rhedeg i fyny'r grisiau ac yn dechrau dawnsio ar y landin. 'Roedd chwe drws yn agor i'r landin. Un oedd drws ystafell wely Miss Pugh, yr athrawes a gyd-letyai â ni. O glywed y mwstwr enbyd, fe gilagorodd Miss Pugh ei drws, a phan welodd yr afr yn dawnsio ar y landin fe'i caeodd o’n glep, a llusgo dodrefn ar draws ei drws rhag y bwch bygythiol Safai'r bwch ar ben y grisiau yn bygwth Ffowc a minnau, oedd yn ceisio cael i fyny i hel y bwch i lawr. Fe ddeffrodd y mwstwr yn nhrymder nos Mrs Jones, gwraig y llety. "Jôs, Jôs, be dach chi'n neud?" oedd ei chwestiwn, a'i 1kis yn awgrymu nad oedd y mwstwr wrth ei bodd. Yr hyn a ofnem bellach oedd i'r hen wraig agor ei drws ac i’r bwch ruthro i mewn a'i hanafu. Fodd bynnag fe gafodd un ohonom i fyny i'r landin dros y canllaw, a gwthiwyd y bwch i lawr, ac fe redodd ymaith drwy'r drws agored. Bwch a arferai bori ym mynwent yr eglwys oedd, a Jôs Llanddeusant (un o’r myfyrwyr) ac Ifan y Gof wedi llwyddo i'w ddal a'i rwymo wrth glicied drws Maesglas. Byddai, fe fyddai ambell un o fechgyn y pentref yn cynghreirio â myfyrwyr mewn direidi a thriciau. Yr oedd Ifan (Pritchard) yn fab Camfa'r Bwth, lle lletyai chwech o fyfyrwyr, W R Jones o Landdeusant, Môn, yn un ohonynt Yng Nghamfa'r Bwth hefyd y lletyai John Llywelyn Hughes o Ryd-ddu, a Charles Currie Hughes o Sit Fôn, dau a ddaeth yn bregethwyr enwog yn eu cytundeb. 'Roedd Currie un tro wedi cysgu yn ei gadair freichiau o flaen y tân yng Nghamfa’r Bwth. Dyma'r lleill yn pentyrru papurau ar y tân, rhwymo Currie yn y gadair a'i symud mor agos ag y gellid at y tan a throi'r golau allan. Buan yr oedd fflamau anferth yn dawnsio o flaen wyneb Currie, ac yn ei fraw ef yn troi'r gadair. "Freuddwydiaist ti dy fod yn uffern, Currie?" gofynnai un o'r bechgyn.

'Roedd Currie'n gryn dipyn o ffefryn gan Mrs Pritchard, Camfa'r Bwth. 'Roedd ei stìwdants hi i gyd yn rhagori ar stiwdants eraill Clynnog, a stiwdants Clynnog í gyd efo'i gilydd yn rhagori ar holl stiwdants pob coleg arall yn y deyrnas. Yr oedd hi wedi clywed rhyw si bod Currie'n cymryd gormod o sylw o Miss Davies, y Llys (athrawes ysgol y pentref), ac am ryw reswm neu'i gilydd 'doedd hi ddim yn ystyried Miss Davies yn deilwng o Currie. Daeth y myfyrwyr eraill i ddeall nad oedd gan eu lletywraig ddim llawer i'w ddweud wrth Miss Davies. Dyma yrru gwahoddiad yn enw Currie i Miss Davies ddod i de ar ddiwrnod prysuraf Mrs Pritchard, dydd Llun, diwrnod golchi, a threfnu hefyd mai dysglaid o benwaig cochion wedi eu berwi a fyddai'r wledd. Yr oedd Mrs Pritchard o'i chi glas pan gyrhaeddodd y ferch ifanc, a Churrie yntau hefyd yn ddigon ffyrnig.