Band Pres Pen-y-groes

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 19:15, 8 Ionawr 2023 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Ychydig a wyddys am Fand Pres Pen-y-groes, mwy na'r ffaith ei fod mewn bodolaeth tua 1890. Mae'n eithaf bosibl mai'r un band â Band Ceidwadwyr Pen-y-groes ydoedd, sef band ad hoc a ddenai eglwyswyr a Thoriaid prin oedd yn aelodau o'r bandiau eraill pan oedd angen chwarae ar gyfer rhyw achlysur neu'i gilydd na fyddai rhelyw y chwareuwyr band yn ei arddel oherwydd eu bod yn anghydffurfwyr ac yn Rhyddfrydwyr.

Dim ond ar ddau achlysur, mae'n ymddangos, y cafwyd sôn am y band hwn yn y wasg: ym mis Mehefin 1889, bu'r band yn chwarae ar dri diwrnod y ffair wen neu bazaar a gynaliwyd i godi arian at godi Eglwys Crist, Pen-y-groes.[1] Ddwy flynedd yn ddiweddarach, ceir adroddiad am y band yn arwain gorymdaith cangen Oddfellows Garndolbenmaen a gwmpas y pentref hwnnw.[2] A hyd yma, dyna'r cwbl ol wybodaeth sydd wedi dod i'r fei.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. Y Llan, 28.6.1889, t.6
  2. Y Genedl Gymreig, 20.5.1891, t.5