Morgan Clynnog
Roedd Morgan Clynnog (1558 - wedi 1619) yn offeiriad Pabyddol ac yn nai i Morys Clynnog.
Ymaelododd Morgan Clynnog yn y Coleg Saesneg yn Rhufain (coleg i hyfforddi dynion ifanc i fod yn offeiriaid a chenhadon Pabyddol) pan oedd yn 21 oed. Roedd ei ewythr, Morys Clynnog, yn gwasanaethu fel rheithor y coleg hwnnw ond bu helynt ac fe'i diswyddwyd, a hynny am roi ffafriaeth i'r Cymry yno fe honnir. Fodd bynnag, yn dilyn yr helynt hwnnw, dywedir mai Morgan Clynnog oedd y myfyriwr Cymraeg cyntaf i gymryd y llw cenhadol i weithredu dros y ffydd Gatholig, a hynny ar 23 Ebrill 1579. Ordeiniwyd ef yn offeiriad a dychwelodd i Gymru fel cenhadwr ym 1582. Bu'n gweithredu fel cenhadwr ac offeiriad Pabyddol mewn ardaloedd yn ne Cymru, Sir Gaerfyrddin yn arbennig. Mae tystiolaeth iddo gynnal offeren yn Llandeilo ym 1590 ac roedd ym Margam y flwyddyn ganlynol. Cai groeso a lloches gan deuluoedd bonheddig a oedd wedi glynu wrth y ffydd Gatholig, er bod hynny'n anghyfreithlon dan drefn eglwysig Brotestannaidd Elisabeth I. Yn ogystal anfonai ddynion ifanc i seminarau Catholig ar y cyfandir, megis Douai a Valladolid, i'w paratoi i weithredu fel cenhadon yng ngwledydd Prydain. Mewn cyfnod pryd y daliwyd ac y dienyddiwyd nifer o offeiriaid a chenhadon Pabyddol, llwyddodd Morgan Clynnog i osgoi'r ffawd honno a bu'n gweithredu ym Mhrydain am flynyddoedd lawer. Erbyn 1600 fe'i dyrchafwyd yn gynorthwywr i'r 'Archoffeiriad' (Archpriest) a cheir y cofnod olaf amdano ar 2 Rhagfyr 1619 pryd roedd yn cael ei ddisgrifio yn 'brif gynorthwywr'. Nid oes unrhyw dystiolaeth iddo gael ei garcharu na'i ddienyddio, sy'n syndod o ystyried mor beryglus oedd y gwaith a gyflawnai.[1]
Cyfeiriadau
1. Gweler erthygl yn Y Bywgraffiadur Cymreig 1941-1950 (Atodiad i'r Bywgraffiadur Cymreig hyd 1940), (Llundain, 1970), t.73.