Alice Griffith (Ceridwen Llyfnwy)
Un o’r ychydig ferched i farddoni ac wedyn ceisio cyhoeddi peth o’i gwaith oedd Alice Griffith (1842- ?) (Thomas gynt) a fabwysiadodd yr enw barddol “Ceridwen Llyfnwy”. Eithriad oedd iddi roi ei henw arferol wrth droed cerdd o’i gwaith yn y cylchgronau a gyhoeddai ei cherddi.
Merch ydoedd i John Thomas, chwarelwr llechi a aned ym 1821, a’i wraig Alice (g.1819). Cawsant o leiaf 4 merch a 3 mab. Alice oedd y plentyn hynaf, ac ar y pryd roedd y teulu’n byw yng Nghoedcaedu, Llanllyfni, cyn symud i Glan-y-ddôl, hefyd ym mhlwyf Llanllyfni, ger Pont Ffatri. Tua 1870, priododd Alice â William Griffith, chwarelwr llechi a aned ym Mhenmorfa ac a oedd chwe blynedd yn iau na hi, a chawsant tri mab, Griffith, Albert a John. Mae’n bur debyg ei bod wedi priodi o’r blaen - neu wedi cael plentyn siawns - gan fod Owen Owens, mab 3 oed iddi, yn byw efo’r cwpl ym 1871. I ddechrau roedd y cwpl wedi ymgartrefu yng Nghoedmor, pentref Tal-y-sarn ond rywbryd cyn 1891 roeddynt wedi symud i Res Glan-y-ddôl, bron y drws nesaf i’w mam a oedd erbyn hynny wedi colli ei gŵr. Ym 1901, mae’r Cyfrifiad yn nodi eu cyfeiriad fel “Church Road” ond ei mam, yn weddw 83 oed erbyn hynny, yn dal i fyw yn Glan-y-ddôl. Erbyn 1911, roedd Alice Griffith wedi colli ei gŵr hithau, ac yn lodjio gyda theulu Morris yn 35 Ffordd y Sir, Pen-y-groes.[1]
Nid yw’n hysbys pryd yr aeth hi ati i farddoni’n gyhoeddus trwy anfon ei gwaith at bapurau a chylchgronau. Ceisiodd ddefnyddio’r mesurau caeth, ond heb fawr o lewyrch. Sylw golygydd barddonol Y Werin am englyn nas argraffwyd a anfonwyd ganddi hi at y papur oedd “Nid oes yr un llinell gywir yn yr englyn hwn”.[2] Roedd hi’n fwy llwyddiannus ymhen pymtheng mlynedd pan gyhoeddwyd englyn neu gywydd o’i heiddo ar destun “Ysgol Jacob” yn rhifyn eisteddfodol Y Geninen, 1905. [3]
Efallai ei bod hi ar dir cadarnach wrth lunio cerddi mydryddol gydag odlau yn hytrach nag ymdrechu efo’r gynghanedd. Er enghraifft, cyhoeddodd yr hyn a alwodd yn alareb i goffáu ei thad ym 1891.[4] Mae’r gerdd, er nad yw’n codi i unrhyw uchelfannau, yn osgoi gor-sentimentalrwydd ac yn amlygu ei ffydd Gristnogol gadarn. Mis yn unig ar ôl hyn, roedd cerdd arall o'i heiddo yn cael ei gyhoeddi, yn galaru y tro hyn ar ôl un o’i meibion, D. Michael Williams, Tŷ’n Llwyn, Llanllyfni.[5]
Mae’r cerdd isod ar destun llai drist yn ddifyr oherwydd iddo amlygu ei dull hi o ysgrifennu ac efallai yn dangos hefyd hyd a lled ei thalent.
YMSON Y CYMFFYRCH. (Buddugol yn Nghyfarfod Llenyddol Tan’rallt, Nantlle.) Tra'n eistedd mewn unigedd Dro'n ôl ryw hafaidd hwyr, Ar fron y Cymffyrch uwch y Nant, Ymgollais yno'n llwyr; Disgynnais i ber lewyg, Daeth dros fy llygaid len, A chlywais ryw ddieithriol lais Yn siarad uwch fy mhen: Llais ysbryd hen y mynydd Mi goeliaf ydoedd hwn, — A glywodd rhywun arall ef Erioed o'r blaen, nis gwn. Diddorol oedd ei wrando Yn adrodd pethau fu Yn newid gwedd, a dwyn i fri Ein Dyffryn enwog cu.
Medd ef :—" Yr oedd Nant Nantlle Ganrifoedd maith yn ôl, Yn llawn prysglwyni diffaith iawn, Heb ffordd, na gwerddlas ddôl; Gwylltfilod a'i meddiannent, Ac yma 'roedd eu tref, Croch udfa'r blaidd a glywid gynt Bob hwyr ohono ef: Er hynny 'roedd prydferthwch Yn eiddo ef pryd hyn ; Tlws oedd yr Afon rhwng y coed, Ond tlysach y ddau Lyn." Cychwynna ei hanesiaeth Yn nyddiau Hywel Dda, Pan ddeuai'r pendefigion gwych I'w hela Ha' 'rôl Ha'; Dychrynid y gwylltfilod Wrth leisiau'r cyrn a'r cŵn, Ac i'w llochesau ffoent ar frys Rhag eu dieithriol sŵn.
Ti glywaist y traddodiad, Gwarantaf mai gwir yw, I'r Brenin Iorwerth Gyntaf fod Yn Nantlle'n hapus fyw.
Bu aml ymladdfa waedlyd O ddeutu lawer tro, Ffrwyth ffôl gynhennau dall, dibwys, Bonheddwyr mawr y fro; Ond llawer gwell nag ymladd Yw gweled dôl a bryn, Dan law celfyddyd wedi eu dwyn, I'r wedd sydd erbyn hyn: Dechreuodd wneud bythynnod Gwyngalchog ar ei ael, A thynnu wnaeth drysorau cudd O'i fawrion goffrau hael; Cynhyrchion hen ei fynwes, Sy'n awr ar led y byd, Yn llechau gwerthfawr, teg eu lliw Yn toi'r anheddau clyd.
Amrywiol, a deniadol Dros ben yw'r golygfeydd, Tomenni ar domenni ban, Gyfodwyd o'i gloddfeydd; Brenhines yr Eryri Sy'n gwylio Drws y Coed, A'r hen fynyddoedd eraill sydd Fel deiliaid gylch ei throed. Pentrefi sydd oddeutu — Cartrefi gweithwyr lu, Y rhai dramwyant fore a hwyr, Yn llon ei lwybrau cu. Aeth cenedlaethau lawer, I'w beddau, er y pryd — Y daeth y Dyffryn bach yn rhan O'r gwareiddedig fyd; Bu rhai o wir enwogion Y Genedl yma'n byw, Yn weinidogion amlwg iawn, O dan arddeliad Duw; Tra mynydd yn Eryri, Atgofion parchus fydd O'r teulu enwog fu yn byw Yn hen amaethdy'r Ffridd; Ac enw nad anghofir Yn Nghymru hyd y farn, Yw enw'r cawr bregethwr roes Enwogrwydd ar Dal'sarn.
Mae gwawr ar dorri eto, I'r broydd enwog hyn, Agorir afon Llyfnwy deg, A sychir y ddau Lyn; Fe gloddir o'i gudd-greigiau Drysorau yn ystôr, A chludir yr ysbwriel oll, I'w gladdu yn y môr."
Y rhyfedd lais ddistawodd, Dadebrais innau'n syn; A rhedais wedyn heb ymdroi I mewn i'm bwthyn gwyn.
Llanllyfni. Ceridwen Llyfnwy.[6]