David D. Griffith (Alaw Dulyn)

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 16:42, 9 Rhagfyr 2022 gan Cyfaill Eben (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Ychydig a wyddys am David D. Griffith (1884-?), ar wahân i'r ffaith ei fod yn fab i Siop a Swyddfa'r Post yn Nebo, siop a elwid yn "siop Brynllyfnwy", y drws nesaf i Capel Nebo (MC). Ym 1901, roedd yn 27 oed, yn byw adref, yn ddi-briod ac yn cael ei ddisgrifio yn y Cyfrifiad fel cynorthwÿydd groser. David Griffith (g.1844) oedd ei dad - hwnnw a gadwai'r siop gyda'i wraig Margaret (g.1842). Roedd y teulu'n byw yn adeilad y siop a'r post. Nid yw David D. na'i fam yn ymddangos yng nghyfeiriad y siop yng Nghyfrifiad 1911 - roedd Margaret yn sicr wedi marw rywbryd ar ôl 1901 gan fod y tad yn cael ei ddisgrifio fel gŵr gweddw.[1] Teulu o blwyf Llanllyfni oeddynt, ac roedd Robert Griffith, y taid, a David ei fab, wedi cychwyn fel chwarelwyr cyn troi at gadw siop yn ogystal â gweithio yn y chwarel.

Roedd David D. Griffith, mab David, yn gerddor da, ac fe'i hanrhydeddwyd trwy ei urddo'n Gerdd-ofydd yn yr Orsedd trwy arholiad ym 1903.[2] Ymhell cyn hynny roedd wedi mabwysiadu ffugenw, sef "Alaw Dulyn" - hynny erbyn 1896 pan fu'n cystadlu (yn aflwyddiannus) mewn cystadleuaeth yn Y Cerddor.[3] Defnyddiai ei ffugenw wrth iddo arwain côr ac ati. Roedd yn arwain Côr Meibion Dulyn a berfformiodd mewn cyngerdd a gynhaliwyd yn Nebo i godi arian at helpu'r ffermwr a'r bardd lleol Homo Goch, Pen-yr-yrfa, Nebo "yn ei adfyd".[4] Byrhoedlog fu oes y côr mae'n debyg gan mai dyna'r unig gyfeiriad ato sydd wedi dod i'r fei hyd yn hyn.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. Cyfrifiadau plwyf Llanllyfni, 1861-1911
  2. Tarian y Gweithiwr, 30.7.1903, t.2
  3. Y Cerddor, Cyf.VIII, Mai 1896, tt.51-2
  4. Yr Herald Cymraeg, 22.3.1904, t,8