David D. Griffith (Alaw Dulyn)

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 11:52, 8 Rhagfyr 2022 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Ychydig a wyddys am David D. Griffith (1884-?), ar wahân i'r ffaith ei fod yn fab i Siop a Swyddfa'r Post yn Nebo, siop a elwid yn "siop Brynllyfnwy", y drws newsaf i Capel Nebo (MC). Ym 1901, roedd yn 27 oed, yn byw adref ,yn ddibriod ac yn cael ei ddisgrifio yn y Cyfrifiad fel cynorthwÿydd groser. David Griffith (g.1844) oedd ei dad - hwnnw a gadwodd y siop gyda'i wraig Margaret (g.1842). Roedd y teulu'n byw yn adeilad y siop a'r post. Ni ymddangosir David D. na'i fam yng Nghyfrifiad 1911 yng nghyfeiriad y siop - Margaret yn sicr wedi marw rywbryd ar ôl 1901 gan fod yn tad yn cael ei ddisgrifio fel gŵr gweddw.[1] Teulu o blwyf Llanllyfni oeddynt, ac roedd Robert Griffith y taid a David ei fab wedi cychwyn fel chwarelwyr cyn troi at gadw siop yn ogystal agweithio yn y chwarel.

Roedd David D. Griffith, mab David, yn gerddor da, ac fe'i hanrhydeddwyd trwy ei godi i Urdd Cerdd-ofydd yn yr Orsedd trwy arholiad ym 1903.[2] Defnyddiai'r ffugenw a gafodd wrth gael ei urddo wrth iddo arwain côr ac ati. Roedd o'n arwain Côr Meibion Dulyn a berfformiodd mewn cyngerdd a gynhaliwyd yn Nebo i godi arian at helpu'r ffermwr lleol Homo Goch, Pen-yr-yrfa, Nebo "yn ei adfyd".[3] Byrhoedlog fu oes y côr mae'n debyg gan mai dyna'r unig gyfeiriad ato sydd wedi dod i'r fei hyd yn hyn.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. Cyfrifiadau plwyf Llanllyfni, 1861-1911
  2. Tarian y Gweithiwr, 30.7.1903, t.2
  3. Yr Herald Cymraeg, 22.3.1904, t,8