Ffatri Gaws Pontlyfni

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 17:55, 6 Rhagfyr 2022 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Yn rhifyn 70, Calan Gaeaf 2022, o'r cylchgrawn Fferm a Thyddyn ceir erthygl fer yn ymwneud â ffatri gynhyrchu caws a sefydlwyd ger Pont y Cim, ger Pontlyfni, yn fuan wedi'r Rhyfel Byd Cyntaf.[1]

Mae'r darn byr yn Fferm a Thyddyn yn rhan o draethawd hwy a ysgrifennwyd gan H. Hughes (ni cheir mwy o fanylion pwy ydoedd) o'i atgofion am fywyd yn yr ardal oddeutu diwedd y Rhyfel Mawr a'r 1920au. Roedd yn gyfnod drwg i ffermwyr wedi'r rhyfel enbyd hwnnw a phenderfynodd tri o ffermwyr amlwg yn ardal Clynnog/Pontlyfni, geisio rhoi hwb i'r economi leol drwy sefydlu ffatri gynhyrchu caws yn y gymdogaeth. Y tri hyn oedd Mr Owen, Pennarth ; Mr Jones, Tŷ'n Coed a thad H. Hughes, awdur yr atgofion (nas enwir). Cafwyd safle ar gyfer y ffatri ar lecyn o dir ar ochr Caernarfon i Bont y Cim, ar y groes lle mae'r ffordd yn fforchi, gydag un yn mynd ymlaen i gyfeiriad Glynllifon a'r llall i fyny'r allt am Ben-y-groes. Cafwyd cyflenwad o ddŵr o Afon Llyfni gerllaw i weithio'r peiriannau, gyda chafn yn ei gludo dros y ffordd.

Dywedir mai merch ffarm ifanc o Foduan (nas enwir gwaetha'r modd), ac a oedd newydd orffen ei chwrs yn y brifysgol yn Aberystwyth, a benodwyd yn rheolwr y ffatri gaws gyda merch leol, Lily Brythonfa, yn gynorthwywr iddi. Penodwyd John Parry, Ysgubor Fawr, i gadw'r cyfrifon a hybu'r gwerthiant. Cafwyd gwasanaeth Owen Williams, Melin-y-Cim gerllaw, a oedd yn berchen ar lori fechan, i gludo llefrith o ffermydd cyfagos i'r ffatri a chludo'r caws wedyn oddi yno at y prynwyr. Dywedir yn yr erthygl y bu gwerthiant da ar y caws yn y gaeaf, ond nid cystal o bell ffordd yn ystod misoedd poeth yr haf.

Ni pharhaodd y ffatri i weithredu'n hir a bu'n rhaid ei chau a gwerthu'r offer. Fodd bynnag, ni bu'n fethiant llwyr oherwydd cafwyd grant drwy'r Swyddfa Amaeth i gynhyrchu'r caws ar rai ffermydd. Dywedir ymhellach yn yr erthygl y daeth holl ferched y fro i'w ddefnyddio ac y cafwyd benthyg ystafell ym Mhennarth i hybu'r fasnach mae'n debyg. Gellid ystyried y ffatri gaws ger Pont y Cim fel rhagflaenydd i'r ffatri laeth lewyrchus a sefydlwyd yn Rhyd-y-gwystl ger Y Ffôr rai blynyddoedd yn ddiweddarach (Hufenfa De Arfon).

Dyna swm a sylwedd yr erthygl a geir yn Fferm a Thyddyn i bob pwrpas. Mae'n brin o ran manylion, megis enwau rhai pobl cysylltiedig â'r fenter, ac yn y blaen. Byddai'n hynod ddiddorol cael rhagor o fanylion am y fenter yma. Tybed a oes gan rai o ddarllenwyr Cof y Cwmwd ragor o wybodaeth amdani, a thybed a oes lluniau o'r ffatri ar gael yn rhywle?

Cyfeiriadau

  1. H. Hughes, "Ffatri gaws Pontllyfni", erthygl yn Fferm a Thyddyn, Rhif 70 Calan Gaeaf 2022, t.24.