Chwarel Onnen
Roedd Chwarel Onnen (neu Onen) wedi cael ei henw o hen fwthyn a safai ar y llethrau o dan Mynydd Cilgwyn, lled cae o Dŷ'n-y-fawnog. Agorwyd tair cloddfa fach ar dir fferm Tal-y-sarn ond gydag amser aeth y tri thwll yn un chwarel fwy. Erbyn 1858, roedd y gwaelod wedi llenwi gyda dŵr ac roedd y chwarel angen ei chlirio ond, ar ôl gwneud hynny, roedd modd gosod pymtheg bargen yno. Dywedid fod y llechi o ansawdd da. Fe werthwyd y cloddfeydd bychain hyn gyda gweddill tir fferm Tal-y-sarn ym 1827 fel tir Cwmni Llechi Tal-y-sarn.[1] Yn y man, aeth y twll yn rhan o dwll Chwarel Tal-y-sarn ei hun, ac yn wir erbyn diwedd y ganrif, roedd y chwarel wedi llyncu bwthyn Onnen yn ogystal â'r chwarel a enwyd ar ei ôl.[2]