Ezekiel Hughes, Tal-y-sarn
Bardd a gyfansoddodd englynion yn bennaf oedd Ezekiel Hughes (1850-1913) o Lynceiriog, Sir Ddinbych yn wreiddiol, ond a symudodd i fyw i Dal-y-sarn. Bu'n byw yn 8 Brynderwen, Tal-y-sarn ym 1881 gyda'i wraig Ellen a hanai o Benmorfa, a'i fab William Thomas, 3 oed. Erbyn 1891, ac yn dal i fyw yn yr un tŷ, roedd y cwpl wedi cael dau blentyn arall, John C. a Sarah A.Chwarelwr ydoedd o ran ei alwedigaeth.[1]
Prin iawn oedd y manteision addysg a gafodd, ond trwy ddarllen a diwyllio ei hun daeth yn ddyn pur feddylgar ac yn aelod amlwg gydag enwad y Bedyddwyr. Cyhoeddwyd nifer o'i gynhyrchion barddonol (englynion gan mwyaf) yn rhai o bapurau newydd a chyfnodolion ei gyfnod, yn arbennig Y Geninen. Ym mis Hydref 1913 cafwyd coffâd iddo fel bardd a chrefyddwr yn Y Greal. Dyma un englyn o'i eiddo (nad yw'n un gwefreiddiol mae'n wir) a gyfansoddodd i'r Athro Silas Morris (1862-1923), Prifathro Coleg y Bedyddwyr ym Mangor. Roedd y prifathro ar yr achlysur hwnnw wedi torri ei gyhoeddiad yn rhyw gapel neu'i gilydd (mae'n bosib yn Nyffryn Nantlle) ac wedi anfon un o'i fyfyrwyr yn ei le, er siom i'r gynulleidfa, fel y nodir yn yr englyn:
Sylw raid wneyd o Silas - yn symud At siomi cymdeithas; Gwir i'r gŵr ro'i gair i'r "gwas", Erddo, er cadw'i urddas.[2]
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma