Ezekiel Hughes, Tal-y-sarn

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 17:07, 29 Tachwedd 2022 gan Cyfaill Eben (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Bardd a gyfansoddodd englynion yn bennaf oedd Ezekiel Hughes (1850-1913) o Dal-y-sarn. Prin iawn oedd y manteision addysg a gafodd, ond trwy ddarllen a diwyllio ei hun daeth yn ddyn pur feddylgar ac yn aelod amlwg gydag enwad y Bedyddwyr. Cyhoeddwyd nifer o'i gynhyrchion barddonol (englynion gan mwyaf) yn rhai o bapurau newydd a chyfnodolion ei gyfnod, yn arbennig Y Geninen. Ym mis Hydref 1913 cafwyd coffâd iddo fel bardd a chrefyddwr yn Y Greal. Dyma un englyn o'i eiddo (nad yw'n un gwefreiddiol mae'n wir) a gyfansoddodd i'r Athro Silas Morris (1862 - 1923), Prifathro Coleg y Bedyddwyr ym Mangor. Roedd y prifathro ar yr achlysur hwnnw wedi torri ei gyhoeddiad yn rhyw gapel neu'i gilydd (mae'n bosib yn Nyffryn Nantlle) ac wedi anfon un o'i fyfyrwyr yn ei le, er siom i'r gynulleidfa, fel y nodir yn yr englyn:

 Sylw raid wneyd o Silas - yn symud
     At siomi cymdeithas;
  Gwir i'r gŵr ro'i gair i'r "gwas",
  Erddo, er cadw'i urddas.[1] 

Cyfeiriadau

1. Cybi, Beirdd Gwerin Eifionydd, (Pwllheli, 1914), t.99.