William Evans (Wil Tan-y-Maes)

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 16:51, 29 Tachwedd 2022 gan Cyfaill Eben (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Yn ei gyfrol Beirdd Gwerin Eifionydd dywed Cybi fod William Evans (Wil Tan-y-Maes) (bu farw tua 1903) wedi treulio ei flynyddoedd cynnar yn ardal Llanllyfni cyn ymfudo i'r America tua chanol y 19g. Yn ôl Cybi bu farw yn Lockport, Illinois oddeutu 1903 ar ôl treulio tua hanner canrif yn America. Yn fuan wedi ei farw ymddangosodd peth gwybodaeth amdano ac enghreifftiau o'i waith yn y cylchgrawn Cymru, a chyhoeddwyd nifer o'i gerddi yn rhifynnau Awst 1913 o Y Genedl Gymreig. Bu'n cyhoeddi ei waith hefyd yn Y Drych, sef prif gyfnodolyn Cymry America.[1]

Cyfeiriadau

1. Cybi, Beirdd Gwerin Eifionydd, (Pwllheli, 1914), t.97.