Cors Goch, Moeltryfan

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 11:21, 24 Tachwedd 2022 gan Cyfaill Eben (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Cyn i lo ddod yn danwydd cyffredin oddeutu canol y 19g., defnyddid mawn yn helaeth, yn arbennig ar dir uwch lle roedd coed yn brin. Yn nechrau haf ai dynion i fyny i'r corsydd mawn i dorri'r mawn yn ddarnau hirsgwar fel briciau gyda rhaw arbennig. Yna gwneid tas o'r mawn a'i gadael i sychu dros yr haf cyn ei nôl gyda throliau at ddiwedd Awst i Fedi. Yn aml roedd gan bob teulu ei lecyn torri mawn a'i das fawn ei hun.

Bu cynaeafu mawn yn rhan bwysig o fywyd ar lechweddau Arfon am flynyddoedd. Wrth droed Moeltryfan roedd mawnog a elwid yn Gors Goch a bu defnydd helaeth arni gan drigolion ardal Rhosgadfan a Rhostryfan. Un o'r rhai a ai yno i nôl mawn oedd Wiliam Bifan (hen fardd y Gadlys) a chadwodd gof am ei daith i'r fawnog yn y rhigwm hwn:

 Wrth ddod yn ôl yn llipryn
 O ladd y mawn a'r rhedyn
 Caf de a sleisen o gig moch
 Gan Martha Goch Cae'rodyn. 

Wrth i boblogaeth pentrefi'r ardal gynyddu ar ôl tua 1840 gyda'r diwydiant llechi'n ehangu, aeth mawn y Gors Goch yn hynod brin a bu'n rhaid mynd ymhellach i fawnog arall ar ochr ddwyreiniol Moeltryfan i geisio mawn. Hon oedd Cors y Bryniau, a roes ei henw i chwarel a agorwyd wrth ei hymyl ac a anfarwolwyd yng nghasgliad cyntaf Kate Roberts o straeon byrion, sef O Gors y Bryniau, a gyhoeddwyd ym 1925. Fodd bynnag, gyda dyfodiad y rheilffordd o Gaer i Fôn ac Arfon yn y 1850au daeth yn fwy hwylus i gludo glo o Loegr ac ardal Wrecsam. Gellid prynu glo glân ac effeithiol am swllt y cant a hwnnw'n cael ei ddanfon i bob tŷ a rhoddodd hynny derfyn i bob pwrpas ar yr arfer trwm a llafurus o dorri a chludo mawn.[1]

Cyfeiriadau

1. W. Gilbert Williams, Moel Tryfan i'r Traeth, (Cyhoeddiadau Mei, 1983), tt.85-7.