Chwarel Lechi Ton
Roedd Chwarel Lechi Ton tua 60 llath i'r gogledd o Chwarel Biggs, ac yn un o'r mân chwareli a ddaeth yn un twll mawr dros amser fel rhan o Chwarel Tal-y-sarn. Erbyn 1858, roedd twll y chwarel tua 40 llath o hyd, 25-30 llath o led a thua 20 llath o ran ei ddyfnder. Chwarel a gynhyrchai slabiau o lechi oedd hi i raddau. Fe werthwyd y cloddfeydd bychain hyn gyda gweddill tir fferm Tal-y-sarn ym 1827 fel tir Cwmni Llechi Tal-y-sarn.[1] Yn y man, aeth y twll yn rhan o dwll Chwarel Tal-y-sarn ei hun.