Chwarel Biggs
Roedd Chwarel Biggs yn un o chwareli gorau o ran safon y llechi a godwyd yno, oherwydd ei bod yn dwll ar wythïen Cilgwyn neu'r "Fein Goch". fe'i galwyd yn "Chwarel Newydd" (New Quarry) weithiau. Erbyn 1858, roedd hi tua hanner can llath o hyd a phymteg i ugain llath o led, ac yn weddol ddwfn ac felly roedd angen codi'r llechi i lefel y dramffodd gyda pheiriannau. Dyma, mae;n debyg oedd y brif gloddfa pan werthwyd tir fferm Tal-y-sarn ym 1827 fel tir Cwmni Llechi Tal-y-sarn.[1] Yn y man, aeth y twll yn rhan o dwll mawr Chwarel Tal-y-sarn.
Mae'n bosibl bod y chwarel hon wedi ei henwi yn ôl enw un Capten Biggs, y sonnir amdano mewn llythyr ym 1851 - byddai'r teitl "capten" yn cyfeirio at reolwr cloddfa y pryd hynny.[2]