Cwmni Loriau O.H. Owen a'i Fab

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 18:17, 15 Tachwedd 2022 gan Cyfaill Eben (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Cwmni lorïau a fu'n gweithredu am flynyddoedd o bentref Trefor oedd cwmni O.H. Owen a'i Fab.

Fe'i sefydlwyd gan Owen Humphrey Owen, a fagwyd yn Llain Las, Rhos-fawr ger Y Ffôr, ac a ddaeth yn yrrwr (a mecanic) cyntaf cwmni bysiau Clynnog a Trefor (y Moto Coch) ym 1912. Priododd â Maggie Roberts a ganwyd tri o blant iddynt. Daeth yn aelod ac yn drysorydd yng nghapel Bethania y Bedyddwyr yn Nhrefor. Collodd ei briod yn 44 oed ym 1936 a bu yntau farw yn ddim ond 51 oedym 1938.

Bu O.H. Owen yn gweithio i'r Moto Coch am saith mlynedd ond gadawodd ym 1919 pryd y sefydlodd bartneriaeth â William Williams, gyrrwr bws arall, gan brynu lori Daimler. Erbyn hynny roedd Chwarel yr Eifl yn troi fwyfwy i gynhyrchu metlin yn hytrach na sets a chafodd y cwmni lori newydd ddigon o waith yn cario metlin o'r gwaith i wynebu ffyrdd Sir Gaernarfon. Yn dilyn marwolaeth O.H. Owen datblygwyd y cwmni'n sylweddol gan ei fab, James (Jim) Owen ac yn fuan daeth lorïau O.H. Owen a'i Fab, gyda'u cabanau coch llachar, yn adnabyddus ymhell y tu hwnt i ffiniau Sir Gaernarfon. Adeiladwyd garej helaeth yng ngwaelod Ffordd yr Eifl, ac ar gwr y gwaith brics, i'w cadw a'u trin.[1] Fodd bynnag, daeth y cwmni i ben yn fuan wedi i Chwarel yr Eifl gau ym 1971. Am flynyddoedd wedyn bu Huw, mab Jim Owen, yn cynnal busnes trin ceir o'r garej ac erbyn hyn mae dyn arall o Drefor, Jonathan Sherret, wedi prynu'r garej ac yn parhau gyda busnes trin ceir yno.

Cyfeiriadau

1. Geraint Jones, Moto Ni, Moto Coch, (Gwasg Carreg Gwalch, 2012), tt.32-3.