Thomas Wynn Belasyse
Roedd Thomas Edward Glynn Wynn, a fabwysiadodd yr enw Thomas Wynn Belasyse (c.1770-1836) ar ôl iddo briodi, yn un o dri mab y Cyrnol Glynn Wynn, Tŷ’r Tŵr, Caernarfon, a fu’n aelod seneddol dros fwrdeistrefi Sir Gaernarfon, 1768-1781; ac yn ŵyr i Syr John Wynn, yr ail farwnig o Glynllifon. Wedi i Glynn Wynn farw, cafodd Thomas swydd ei dad fel protonotari Gogledd Cymru am gyfnod.
Ym 1801, priododd Thomas y Fonesig Charlotte Belasyse, merch hynaf ail Iarll Fauconberg o Briordy Newburgh (neu Newborough) ger Coxwold yng Ngogledd Swydd Efrog, gan ddod yn breswylydd Newburgh nes i Charlotte farw ym 1825.[1] Mabwysiadodd ei chyfenw teuluol hi. Ym 1810-11, gwasanaethodd Thomas Wynn Belasyse fel uchel siryf Swydd Efrog, a dywedir iddo wario £40,000 yn ystod ei flwyddyn yn y swydd oherwydd y gofynion trwm a oedd yn gysylltiedig â hi.
Prif berthnasedd Thomas Wynn Belasyse i hanes Uwchgwyrfai yw’r ffaith y cafodd ei enwi’n un o ymddiriedolwyr Syr Thomas Wynn, Arglwydd 1af Newborough, ei ewyrth. Pan fu farw hwnnw ym 1807, daeth Wynn Belasyse yn brif warchodwr ei ddau fab, Thomas John a etifeddodd y teitl Arglwydd Newborough, ac yntau ond yn bump oed, a Spencer Bulkeley. Yn sicr, wedi i’w mam, Maria Stella, ail-briodi â bonheddwr o Estonia a symud i Tallinn, Wynn Belasyse oedd yn gweithredu bron fel rhiant iddynt, yn trefnu addysg y bechgyn a’u croesawu i Newburgh o bryd i’w gilydd. Serch i Maria Stella gael ei gwahanu oddi wrth ei meibion, arhosodd yn ddraenen yn ystlys Wynn Belasyse wrth iddo geisio cadw’r bechgyn oddi wrth yr hyn a ystyriai'n ddylanwad drwg eu mam. Bu hefyd yn weithgar ym materion Ystad Glynllifon.[2]
Roedd gan Wynn Belasyse uchelgais i fod yn aelod seneddol, a gobeithiai y byddai’n cael ei enwebu fel yr aelod dros Fiwmares gan deulu Bulkeley ym 1807 ar farwolaeth ei ewyrth, yr Arglwydd Newborough, a oedd wedi dal y sedd cyn hynny. Gwrthododd yr Arglwydd Bulkeley gydsynio fodd bynnag, ac achosodd hyn rwyg rhwng y ddau deulu’n wleidyddol.[3]
Bu'n rhaid iddo symud o Newburgh pan fu farw Charlotte ym 1825, gan mai etifedd yr ystâd oedd Syr George Wombwell, barwnig, brawd-yng-nghyfraith Charlotte. O hynny allan, mae’n debyg i Wynn Belasyse fyw yn Llundain.[4] Nid oedd hyn yn creu trafferth ar y dechrau, gan fod tŷ ganddo yn Stryd George, Sgwâr Hanover, Westminster.[5] Dichon iddo fyw mewn sawl tŷ rhent wedi hynny. Mae yna awgrym mewn llythyrau rhwng asiantwyr a chyfreithwyr Ystad Glynllifon ar ran Thomas John, yr ail Arglwydd Newborough wedi iddo gyrraedd 21 oed, fod rhaid i arian, a oedd i gael ei dalu i Wynn Belasyse fel blwydd-dâl dan ewyllys ei ewyrth, gael ei ddargyfeirio i’w gredydwyr. Erbyn 1827, roedd yn byw ym Mharis, allan o afael ei gredydwyr, a rhoddodd hysbyseb yn y London Gazette yn cyhoeddi ei fod wedi trosglwyddo ei holl eiddo i ymddiriedolwyr a fyddai’n defnyddio’r cyfryw i fodloni’r rhai yr oedd mewn dyled iddynt.[6]
Bu farw fis Awst 1836, ac mewn llythyr at y trydydd Arglwydd Newborough, torrodd Capten Perceval (cefnder o bell i deulu Newborough trwy briodas) y newyddion am ei farwolaeth. Mae’n amlwg fod y diwedd wedi bod yn drist os nad yn boenus, gan i Wynn Belasyse farw mewn carchar i ddyledwyr. Cafodd ei gladdu’n amharchus o sydyn, yn ôl y Capten, gan fod rhaid symud y corff yn syth rhag gorfod talu rhent am wythnos arall. Fe’i claddwyd ym medd ei fodryb er mwyn arbed y gost o fedd newydd, a hynny gyda chyn lleied o wario ag oedd yn ymarferol. “Cafodd ei gladdu mewn modd oedd yn nes at gladdu ci na chladdu bod dynol – felly mae dyn pan fydd arian yn y cwestiwn” meddai.[7]
Sylwer : Cyd-ddigwyddiad llwyr yw’r tebygrwydd rhwng teitl ei daid, sef “Arglwydd Newborough”, ac enw Priordy Newburgh neu Newborough yn Coxwold.
cyfeiriadau
- ↑ Archifdy Prifysgol Bangor, GB 222 BMSS CWB
- ↑ Archifdy Caernarfon, XD2/passim
- ↑ Gwefan History of Parliament, [1], cyrchwyd 14.11.2022
- ↑ Erthygl Wikipedia ar Newburgh Priory, [2], cyrchwyd 14.11.2022
- ↑ Llyfrau Treth Dinas Westminster, 1801-1822
- ↑ London Gazette, 1827, t.2612
- ↑ Archifdy Glynllifon, XD2/18317