Robert Williams (Trebor Cybi)

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 22:08, 10 Tachwedd 2022 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Bu Robert Williams (1847-1905), neu Trebor Cybi i roi ei enw barddol iddo, yn byw am gyfnod yn Nhal-y-sarn. Prin iawn oedd y manteision addysg a gafodd ond ymdrechodd i'w ddiwyllio ei hun gan ddarllen yn helaeth. Bu'n aelod ffyddlon o eglwys Bethania y Bedyddwyr yn Nhal-y-sarn, gan weithio'n ddygn i hyfforddi'r plant a'r bobl ifanc. Ychydig iawn o'i waith barddonol a gadwyd a hynny'n englynion gan mwyaf. Dyma un ohonynt:

 Y DYFODOL
 Du gyfnod yw'r dyfodol, - y caddug
     A'i cuddia ef bythol;
  Deall gair o'i dywyll gôl,
  Ni fedra y ddawn feidrol. 

Ceir ysgrif fer amdano yn y cylchgrawn Y Greal, Hydref 1913.[1]

Cyfeiriadau

  1. Cybi, Beirdd Gwerin Eifionydd, (Pwllheli, 1914), t.98.