Owen Morris (Owain Meurig)

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 19:05, 3 Tachwedd 2022 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Ychydig a wyddys am fywyd Owen Morris (1856-1918). Mab Cae'r ffridd ydoedd, ym mhlwyf Llanllyfni. Credir mae Ellen Jones (g.1824 yn Llanllyfni) oedd ei fam. Bu'n gweithio fel chwarelwr gydol ei oes. Priodas ag Annie tua 1882, a chawsant o leiaf bedwar o blant, Ellen (g.1883) a aeth yn athrawes ysgol; John Pierce. (g.1885) a weithiai fel saer; Mary Winnie (g.1886); a Nesta Catherine (g.1896).

Ar ôl priodi, a byw (mae'n ymddangos yng Nghae'r Ffridd am rai blynyddoedd)[1], symudodd y teulu i Dan-y-ffordd, Llanllyfni. Yr oeddynt yno erbyn 1891 ond erbyn 1901 roedd cartref y teulu yn y Tŷ Capel yn Nebo ac yn y fan honno arhosent weddill eu hoes. Codwyd Owen Morris yn flaenor Capel Nebo (MC) ym 1914.[2] Bu farw yn annisgwyl fis Awst 1918, a'i wraig wedi marw o'i flaen. Mewn

I'w barhau

  1. Y Genedl Gymreig, 10.10.1888, t.5
  2. Y Genedl, 5.5.1914, t.3