John Jones (Maldwynog)

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 18:39, 30 Hydref 2022 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Gŵr o blwyf Carno, Sir Drefaldwyn oedd John Jones (Maldwynog) (1858-1894). Roedd o’n fab i Thomas Jones, saer a Catherine Jones (Lloyd gynt), y teulu’n byw gydag Edward Lloyd, brawd Catherine, a oedd yn ffermio Wylfa, Glan’rafon, Carno.[1]

Nid hawdd yw canfod symudiadau gweithwyr sydd ag enwau cyffredin megis John Jones, ond mae’n bosibl iddo dreulio amser yn y de. Cyhoeddodd englyn yn y Pontypridd Chronicle yn gynnar ym 1882.[2], a phrin y byddai wedi gwneud hynny heblaw ei fod yn (neu wedi bod yn) byw yn ardal y papur hwnnw am gyfnod.

Beth bynnag am hynny, rywbryd ar ôl 1880 roedd John Jones wedi symud o Sir Drefaldwyn i Ddyffryn Nantlle i chwilio yno am waith. Yno briododd ei wraig Catherine, a aned ym mhlwyf Llanllyfni ym 1859. Cawson nhw un mab, Owen, a aned ym 1885. Cartref y teulu oedd tŷ yn Rhes Yorkshire, Llanllyfni.[3] Chwarelwr oedd Maldwynog wrth ei waith, ond magodd enw iddo fo ei hun fel bardd, gan ennill mewn ambell i eisteddfod a chylchwyl, megis Cylchwyl Lenyddol a Cherddorol Capel Bethel (MC), Pen-y-groes ym 1888[4] a Chylchwyl Capel Bryn'rodyn (MC), Y Groeslon y Nadolig canlynol.[5] Dichon iddo gyflawni sawl gamp farddonol, ond rhaid bod yn wyliadwrus gan fod dyn arall yn arddel y ffugenw “Maldwynog”, a hwnnw’n cyfrannu at bapurau newydd ac anfon adroddiadau am newyddion lleol gydol yr amser oedd John Jones (Maldwynog) yn ysgrifennu. Yn wir, cafwyd cwyn ym mhapur Y Celt fod yna ddau Faldwynog wrthi, ac na ddylid dewis enw barddol a oedd eisoes wedi mabwysiadu gan rywun arall - er bod hynny’n bur gyffredin ymysg beirdd lleol![6] Cafwyd sylwadau digon ffafriol amdano fel bardd yn ystod ei oes, a phan aed ati i bwyso a mesur talentau beirdd y dyffryn yn Y Genedl Gymreigym 1888, fe’i gosodwyd yn nawfed allan o 18 o feirdd y dyffryn o ran ei allu barddonol.

Rywbryd yn ystod y 1890au cynnar, penderfynodd Maldwynog edrych am waith tua’r de, gan adael ei deulu bach adref ym Mhen-y-groes. Cafodd waith fel glöwr yng nglofa’r Albion, Cilfynydd, gan gymryd lodjin yn 14 Stryd Jones, Cilfynydd. Ymdaflodd i fywyd yr ardal, gan fynychu capel y Methodistiaid Calfinaidd yng Nghilfynydd. Yno, ar ddiwedd mis Mehefin 1894 bu tanchwa neu ffrwydrad o nwy yn y lofa a lladdwyd dros gant o ddynion, yn cynnwys Maldwynog.<South Wales Daily News, 26.2.1894, t6</ref> Fe adawodd ei wraig a’i fab Owen yn naw oed, ac yntau ei hun ond yn 37 oed. Yn ôl y sôn yn y papurau, cludwyd ei gorff adref i Ddyffryn Nantlle i’w gladdu.<ref>Tarian y Gweithiwr, 12.7.1894, t.2<ref>

Cyfeiriadau

  1. Cyfrifiad plwyf Carno, 1861
  2. Pontypridd Chronicle, 24.1.1882, t.3
  3. Cyfrifiad plwyf Llanllyfni, 1891
  4. Y Genedl Gymreig, 2.1.1889, t.6
  5. Y Genedl Gymreig1.1.1890, t.8
  6. Y Celt, 8.1.1886, t.8