Ebenezer Thomas (Eben Fardd)

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 13:00, 20 Ionawr 2018 gan Ffrind Eban (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Ysgolfeistr a bardd oedd Ebenezer Thomas (Eban Fardd) (Awst 1802 - 17 Chwefror 1863).

Ganed Ebenezer Thomas yn Nhan-lan, ger Llangybi i Thomas Williams a Catherine Prys. Gwehydd oedd ei dad ac roedd ef a'i wraig yn aelodau ffyddlon yn y Seiat Fethodistaidd ym Mhencaenewydd. Ymunodd Eben á'r seiat ei hun yn 1811. Cafodd addysg gynnar mewn ysgolion yn Llangybi ac Aber-erch a dysgodd grefft ei dad yn ogystal. Aeth ymlaen wedyn i gael addysg bellach mewn ysgol yn Nhudweiliog ond pan fu farw ei frawd, Evan, yn 1822 dychwelodd i fro ei febyd i ofalu am ysgol a gadwai Evan yn Llangybi.

Dechreuodd ymhel á barddoniaeth cyn bod yn 15 oed ac roedd wedi dod i adnabod dau o brifeirdd y cwmwd, Dewi Wyn o Eifion a Robert ap Gwilym Ddu, erbyn hynny. Ei enw barddol cynnar oedd Cybi o Eifion a dyna a geir wrth ei gerddi cynharaf. Yn 1824 enillodd gadair Eisteddfod Powys am ei awdl ‘Dinystr Jerusalem gan y Rhufeiniad’.Mae hon yn un o awdlau mwyaf adnabyddus y bedwaredd ganrif ar bymtheg a cheir ynddi ddarnau cynhyrfus a dramatig iawn.

Yn 1827 symudodd i Clynnog Fawr i gadw ysgol ar gais Hugh Williams, ficer y plwyf, yn y rhan o Eglwys a elwir yn Gapel Beuno. Priododd yn 1830 gyda Mary Williams, Caerpwsan, Clynnog a ganwyd iddynt dair merch ac un mab. Byddai ei wraig yn pobi bara a chadw siop a byddai Eben yntau yn rhwymo llyfrau a gwneud cyfrifon i bobl i ychwanegu at ei incwm fel ysgolfeistr. Yn ddiweddarach bu'n cadw post yn y pentref hefyd. Yn fuan ar ól iddo symud i Glynnog dechreuodd gadw dyddiadur a chyflawnodd yr orchwyl honno bron yn ddi-dor wedyn tan flynyddoedd olaf ei oes. Mae'r dyddiaduron hyn yn ffynhonnell eithriadol bwysig o wybodaeth am amgylchiadau'r cyfnod, yn ogystal á thaflu goleuni ar amgylchiadau personol y bardd a'i deulu. Roedd Eben yn arw am ddiod er sawl ymgais i ddiwygio. Dioddefai'n gyson oddi wrth bruddglwyfni hefyd a phoenai'n gyson ynghylch cyflwr ei enaid. Byddai'n cystadlu’n aml o tua 1840 ymlaen, ac yn ymddiddori mewn ysgrifennu llenyddiaeth. Symudodd yr Ysgol yng Nghlynnog i’w dŷ, a daeth i ddealltwriaeth gyda’r Methodistiaid Calfinaidd y byddai’n cael ei noddi i ddysgu plant yn rhad, a hefyd i ddysgu ymgeiswyr am y weinidogaeth. Enillodd Eisteddfod 1858 yn Llangollen am ei awdl am frwydr maes Bosworth.


Llyfryddiaeth

Cofnod ar y Bywgraffiadaur Cymreig