Brethyn Cartref

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 10:54, 24 Hydref 2022 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Yr oedd Brethyn Cartref yn driawd o Nantlle a arferai ganu yn y 1960au a 1970au. Yr aelodau oedd Eryl, Marian a Heulwen, tair chwaer - a Cartref oedd enw'r cartref. Arferai'r triawd ganu geiriau a luniwyd gan John Llywelyn Roberts, Pen-y-groes, a'r chwiorydd eu hunain yn cyfansoddi'r alawon. Ymddangosodd y grŵp ar sawl rhaglen deledu megis "Disg a Dawn" a "Ryan a Ronnie", a bu'r triawd yn amlwg fel artistiaid mewn llawer o'r cyngherddau pop a nodweddai'r cyfnod. Buont hefyd yn rhyddhau ambell i record EP.[1]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. Lleu, Mawrth 2022, t.13