Pigyn Clust

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 10:54, 24 Hydref 2022 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Roedd Pigyn Clust yn fand gwerin o ardal Caernarfon a arbenigai mewn chwarae cerddoriaeth o naws Geltaidd. Cyhoeddodd y grŵp nifer o recordiau, yn cynnwys Otitis Media, Perllan ac Enaid . Yr aelodau oedd Ffion Haf, y lleisydd, o Lanwnda, chwaer yr awdures Angharad Tomos; Cass Meurig, ffidl a chrwth; Idris Morris Jones, yntau hefyd yn byw yn Llanwnda, ffidl; Endaf ap Ieuan, gitâr a bwswci; a Wyn Williams, gitâr a mandola.[1] Bu'r band yn perfformio o 1998 hyd 2007, ond daeth y grŵp i ben yn dilyn marwolaeth annhymig Ffion Haf yn fuan wedyn.


Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. Gwefan Creighton's Collection, {https://www.creighton-griffiths.co.uk/acatalog/pigynclust.html}, cyrchwyd 6.1.2022