Brethyn Cartref
Yr oedd Brethyn Cartref yn driawd o Nantlle a arferai ganu yn y 1960au a 1970au, sef Eryl, Marian a Heulwen, tair chwaer - a Cartref oedd enw'r cartref. Arferai'r triawd ganu geiriau a luniwyd gan John Llywelyn Roberts, Pen-y-groes, a'r chwiorydd eu hunain yn cyfansoddi'r alawon. Ymddangosodd y grŵp ar sawl rhaglen deledu megis "Disg a Dawn" a "Ryan a Ronnie", a bu'r triawd yn amlwg fel artistiaid mewn llawer o'r cyngherddau pop a nodweddai'r cyfnod. Buont hefyd yn rhyddhau ambell i record EP.
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma