John Owen Williams (Mawrthfab)

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 09:21, 18 Hydref 2022 gan Cyfaill Eben (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Ganed John Owen Williams (1848-1925) yn Llanidan, yn fab i Daniel Williams (g.1819), yntau o Lanidan yn wreiddiol, a Catherine (g.1817) ei wraig, yn wreiddiol o Gaernarfon. Ym 1841, roedd Daniel, y tad, yn byw gyda’i fam Jane a’i frodyr yn Bryngolau, Llanidan. Dichon mai teulu o gryddion a chyfrwywyr oeddent.

John oedd mab hynaf Daniel a Catherine, ac erbyn i’w chwaer (hefyd yn Catherine) gael ei geni dair blynedd yn ddiweddarach, roedd y teulu wedi symud o Lanidan i Gaergybi, ac (ymhen blwyddyn neu ddwy) i Gemaes, lle ganwyd William ym 1854 a Daniel ym 1856. Disgrifir y tad, Daniel, fel groser a phobydd yn y Cyfrifiad ym 1861.

Erbyn 1871, roedd John wedi symud i bentref Pen-y-groes oedd yn tyfu’n ganolfan fasnachol Dyffryn Nantlle ar y pryd, gan agor siop groser yn siop y Canister Coch, y drws nesaf ond dau i Dafarn y Llew Coch. Roedd ei frawd Daniel wedi symud ato fo, ac yn gweithio fel prentis groser.

Fe briododd ag Ann Thomas, Tal-y-sarn, ond o Benmorfa’n wreiddiol, tua’r Nadolig 1879, ac yn rhifyn Y Genedl Gymreig 1/1/1880, fe welir englyn gan “Cyfaill” yn sôn am y briodas:

Wi! Mawrthfab, arab wron – awenawl,
Unwyd â’i Ann dirion,
Boed i’r ddau wenau Duw Ion,
Ac oes hir o gysuron. "[1]

Sylwer ei fod erbyn hyn wedi mabwysiadu’r enw barddol “Mawrthfab” ac, yn wir, bu’n defnyddio’r ffugenw mor gynnar ag 1872 pan anfonodd benillion am Lyn Cwm Silyn i'r Faner. [2] O hynny ymlaen, roedd ei waith, englynion gan amlaf, yn ymddangos yng ngholofnau papurau Cymraeg y Gogledd. Enghraifft o hyn yw ei englyn am dŷ Prydyddes y Gro, Cemaes, tŷ ar lan y môr yr oedd y llanw’n ei gyrraedd yn gyson:

Tŷ swynol yw tŷ Siani – tŷ bara,
Tŷ burum, tŷ pobi;
Ymdrechir am ei drochi,
Gan donau maith llaith y lli’. "[3]

Fodd bynnag, nid oedd ei gynigion cynnar yn derbyn canmoliaeth y colofnwyr barddol yn y papurau bob tro. Cafodd ei gystwyo’n o sownd yn Y Drych ym 1875 am anfon englyn o’i eiddo i’r golofn farddol lle roedd tair o’r pedair llinell wedi eu copïo air am air o un o englynion Robert ap Gwilym Ddu! [4] Parhau i farddoni, gan gystadlu mewn eisteddfodau lleol a rhanbarthol ac anfon cyfansoddiadau at y papurau newydd wnaeth Mawrthfab, hyd 1910 o leiaf. [5] Fel aeth yr amser ymlaen, fe ddatblygodd yn fardd digon cymeradwy’n lleol. Mewn rhestr o feirdd y Dyffryn a gyhoeddwyd ym 1888, fe’i gosodwyd yn wythfed allan o 18 o feirdd lleol. [6]

Yr un modd, parhaodd i redeg ei siop groser a hynny yn rhif 5 Sgwâr y Farchnad erbyn 1881. Erbyn 1911, roedd yn dal efo siop groser yn Sgwâr y Farchnad, yn rhif 15 erbyn hynny. Am gyfnod hir, fel masnachwr craff, roedd ei eirda i effeithioldeb Evan’s Quinine Bitters yn ymddangos mewn hysbyseb tudalen lawn ym mhapurau’r Gogledd, [7] ac yntau’n ddigon craff i beidio â dweud ei fod yn gwerthu’r cyfryw foddion!

Mae’n amlwg o sawl hanes yn y papurau ei fod yn ffigwr cyhoeddus yn Nyffryn Nantlle, ac yn ochri gyda’r Rhyddfrydwyr. Bu’n aelod yng Nghapel Bethel ac fe’i codwyd yn flaenor. [8]

Cafodd Ann ei wraig ac yntau un ferch, Catherine Ann, a anwyd ar 2 Mawrth 1886[9]. Ymhen amser, aeth y ferch i Swydd Caint fel athrawes. Bu Mawrthfab farw ar 13 Mehefin 1925, yn 82 oed, gan adael ei wraig Ann Williams yn weddw ar ei ôl. £220 oedd gwerth ei eiddo yn ôl y dogfennau profiant. [10]

Er mor anghyfarwydd yw’r ffugenw erbyn hyn, yr oedd o leiaf dri Mawrthfab arall wrthi tua’r un adeg – yn Llanfair Talhaearn, yn Helygain, Sir y Fflint, ac o bosib tua Aberpennar yn y de, heb sôn am y bardd Mawrthfab o Feirion! Rhaid gochel rhag cymysgu rhyngddynt.

Cyfeiriadau

  1. op.cit., t.7
  2. Baner ac Amserau Cymru, 3.8.1872, t.6
  3. Y Genedl Gymreig, 21.4.1881, t.8
  4. Y Drych, 28.10.1875, t.6
  5. Papur Pawb, 26.11.1910, t.2
  6. Y Genedl Gymreig, 8.2.1888, t.7
  7. ee Y Genedl Gymreig, 8.12.1888, t.8
  8. Y Dinesydd Cymreig, 16.10.1918, t.8
  9. North Wales Express, 26.3.1886, t.6
  10. Calendr Profiant 1925, ar gael yn Archifdy Caernarfon