Morys Clynnog
Diwinydd Cristnogol Catholig oedd Morys Clynnog (c.1523-1581).
Deuai’r diwinydd o Glynnog, er nad oes unrhyw wybodaeth am ei flynyddoedd cynnar, ac aeth ymlaen i Goleg Crist, Rhydychen a graddio gyda B.C.L. ym 1548. Bu'n dal nifer o fywoliaethau eglwysig yn Lloegr cyn iddo gael ei benodi'n rheithor Corwen ym 1556. Dyrchafwyd ef yn Esgob Bangor ym 1558, yn dilyn marwolaeth Dr. William Glyn. Cyn iddo gael ei gysegru, bu farw'r frenhines Babyddol Mari ac, yn hytrach na chydymffurfio â'r drefn Brotestannaidd newydd dan Elisabeth I, dewisodd alltudiaeth ar y cyfandir. Gyda Gruffudd Robert, archddiacon Môn, cyrhaeddodd Rufain ym 1561. Ym 1577 penodwyd ef yn warden yr Ysbyty Seisnig yn Rhufain. Y flwyddyn ddilynol sefydlwyd coleg Seisnig yn Rhufain drwy waith Cymro arall, Owen Lewis (esgob Cassano yn ddiweddarach) a dewiswyd Morys Clynnog yn rheithor y coleg newydd, gyda thri o Jeswitiaid i'w gynorthwyo i hyfforddi'r myfyrwyr, yn Gymry a Saeson. Dywedid bod Morys yn ffafrio'r Cymry yno ac arweiniodd hynny at groesdynnu sylweddol gyda'r Jeswitiaid yn ceisio cael rheolaeth lwyr dros y coleg. Gorchmynnwyd i Morys Clynnog adael ei swydd flwyddyn yn ddiweddarach, dan bwysau gan yr aelodau Jeswitaidd. Ym 1580 ceir hanes amdano'n mynd ar fwrdd llong yn Rouen yn Ffrainc a chredir iddo foddi yn gynnar ym 1581 tra oedd yn teithio i Sbaen.
Cyhoeddodd lyfr bychan ar ffurf catecism Pabyddol, sef ‘Athraviaeth Gristnogawl’. Gruffudd Robert a luniodd y rhagymadrodd iddo ac fe'i hargraffwyd yn Milan, lle roedd Gruffudd Robert wedi ymsefydlu.