Emanuel Evans

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 20:22, 3 Hydref 2022 gan Malan% (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Emanuel Evans (1800-1869) oedd Melinydd Melin Faesog, 1857- 1869

Roedd yn un o ddeg o blant Melin Saethon, Llanfihangel Bachellaeth. Saer melinau ydoedd wrth ei alwedigaeth. Ni chafodd fawr o addysg ond er pan oedd yn ifanc dangosodd chwaeth a medr mawr mewn cerddoriaeth, a chyfansoddodd lawer o donau cynulleidfaol, anthemau, ac amryw ddarnau dirwestol, e.e. Y Babell Ddirwestol a Dagon wedi colli ei barch. Bu am gyfnod yn byw yn Nefyn ac roedd yn arweinydd y Côr Dirwestol yno yn 1857. Wedi hynny symudodd ef a'i deulu i Felin Faesog, Tai'n Lòn, Capel Uchaf, lle yr arhosodd hyd derfyn ei oes, yn Ebrill 1869, yn 69 mlwydd oed, Fe'i claddwyd ym mynwent Eglwys Beuno Sant, Clynnog, lle nad oes dim yn nodi ei fedd.

Rhagor i ddilyn a throednodiadau (Myrddin Fardd / Sophia Pari-Jones) - fe'i rhestrir mewn llyfr ar wneuthurwyr clociau a chyfeirir ato fel "Emanuel Evans, gwneuthurwr clociau" pan oedd yn byw yn Nefyn. Ac mae angen dolen i "Melin Faesog"