Capel Drws-y-coed (A)

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 10:23, 3 Hydref 2022 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Capel Annibynnol yn Nrws-y-coed yw’r addoldy hwn.

Adeiladwyd y capel cyntaf tua 1836 a chafodd ei atgyweirio ym 1856. Yna cafodd capel newydd ei godi ym 1892 ar safle gerllaw'r adeilad gwreiddiol wedi i garreg enfawr o'r llechwedd uwchlaw iddo lithro i lawr gan achosi difrod enbyd i do a muriau'r adeilad. Yn ffodus, roedd y capel yn wag pan ddigwyddodd hynny neu byddai wedi achosi trychineb ddychrynllyd. Gwnaed gwaith pellach ar y capel ym 1905[1]. Lleolir y capel ar fin y lôn sydd yn mynd o Ddrws-y-coed i Ryd-ddu.

Cyfeiriadau

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma