Bryn Eisteddfod

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 09:27, 5 Medi 2022 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Mae Bryn Eisteddfod yn dŷ sylweddol ar gyrion pentref Clynnog Fawr ar y ffordd gefn sy'n mynd heibio i Gapel Ebeneser a'r Ysgoldy i gyfeiriad Aberdesach.

Cafodd Bryn Eisteddfod ei gynllunio gan y gweinidog, y bardd a'r dyfeisydd Howell Roberts (Hywel Tudur) (1840 - 1922) yn gartref iddo ef a'i deulu wedi iddo symud i fyw o fferm Hafod-y-Wern, a oedd yn gartref i'w wraig gyntaf. (Ceir rhagor o wybodaeth yn yr ysgrif ar Hywel Tudur yn Cof y Cwmwd.) Dywedodd Hywel Tudur iddo roi'r enw hwn ar ei gartref newydd oherwydd yr arferid cynnal eisteddfodau ar y llecyn flynyddoedd maith a fu.

Am gyfnod tua diwedd y ganrif o'r blaen a dechrau hon bu Bryn Eisteddfod yn westy ac yn fwyty. Erbyn hyn mae bardd arall yn trigo yno gan fod Bryn Eisteddfod wedi bod yn gartref ers rhai blynyddoedd bellach i'r Prifardd Meirion MacIntyre Huws (Mei Mac) a'i deulu ac maent yn cynnal busnes gwely a brecwast yno.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma