Bryn Eisteddfod

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 14:12, 3 Medi 2022 gan Cyfaill Eben (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Mae Bryn Eisteddfod yn dŷ sylweddol ar gyrion pentref Clynnog ar y ffordd gefn sy'n mynd heibio i Gapel Ebeneser a'r Ysgoldy i gyfeiriad Aberdesach.

Cafodd Bryn Eisteddfod ei gynllunio gan y gweinidog, y bardd a'r dyfeisydd Howell Roberts (Hywel Tudur) (1840 - 1922) yn gartref iddo ef a'i deulu wedi iddo symud i fyw o fferm Hafod-y-Wern, a oedd yn gartref i'w wraig gyntaf. (Ceir rhagor o wybodaeth yn yr ysgrif ar Hywel Tudur yn Cof y Cwmwd.) Dywedodd Hywel Tudur iddo roi'r enw hwn ar ei gartref newydd oherwydd yr arferid cynnal eisteddfodau ar y llecyn flynyddoedd maith a fu. Erbyn hyn mae bardd arall yn trigo yno gan fod Bryn Eisteddfod wedi bod yn gartref ers rhai blynyddoedd bellach i'r Prifardd Meirion MacIntyre Huws (Mei Mac) a'i deulu ac maent yn cynnal busnes gwely a brecwast yno.