Gwesty Victoria
Roedd Gwesty Victoria yn un o'r ddwy dafarn olaf i fod yn agored ym Mhen-y-groes nes iddio gau yn 2010. Mae'r adeilad yn goroesi, yn sefyll ar gornel Stryd yr Wyddfa a'r Stryd Fawr mewn man amlwg. Ar ôl nifer o flynyddoedd pan oedd y ffenestri wedi'u byrddio a'r adeilad yn wag, mae bellach yn y broses o gael ei droi'n dŷ annedd.
Arferai Gwesty Victoria fod yn un o adeiladau pwysicaf yn y pentref. Ym 1881, William Chambers, gŵr 43 oed o Roscolyn, oedd y tafarnwr. Roedd ei wraig Catehrine 13 mlynedd yn iau nag ef ac yn hanu o Ben-y-groes. Roedd y busnes yn digon llewyrchus i gadw gwas cyffredinol a choginwraig, y ddau'n byw yn y gwesty, heb sôn am rai eraill oedd, o bosibl, yn cael eu cyflogi ond yn byw mewn mannau eraill.[1]
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma
Cyfeiriadau
- ↑ Cyfrifiad Pen-y-groes, 1881