Dewines Coch-y-big

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 13:53, 16 Awst 2022 gan Cyfaill Eben (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Fe adroddwyd stori gan Syr John Rhŷs am ddewines a oedd yn byw tua ddechrau'r 19g. yng Nghoch-y-big, fferm yn ardal Brynaerau. Dywedodd fod William Thomas, hen ŵr Brysgyni Ganol, fferm arall yn yr ardal, yn cofio iddo fynd i Goch-y-big pan oedd yn llanc ifanc. Yno fe welodd grochan llawn llymru yn berwi ar y tân nes iddo gael ei gipio'n sydyn gan "law anweledig", a'r funud nesaf fe welai'r crochan yn dal i ferwi ond yn uchel yn nenfwd y tŷ. Pan oedd William Thomas yn codi ffrae, fel yr arferai ei wneud yn aml, byddai'r sawl oedd o dani yn bygwth mynd â'r mater gerbron derwines Coch-y-big - a byddai William Thomas yn tawelu "fel oen llyweth" yn y fan a'r lle.[1]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. W. Hobley, Hanes Methodistiaeth Arfon, Cyf.I, Dosbarth Clynnog (Caernarfon, 1910), t.9