John Evans (fforiwr)

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 16:02, 18 Gorffennaf 2022 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Ganed John Evans (1770-1799) yng Ngwredog Uchaf, plwyf Llanwnda ac fe'i bedyddiwyd 14 Ebrill 1770. Symudodd y teulu yn y man ar draws Afon Gwyrfai gan ymsefydlu yn yr Hafod Olau, Waunfawr[1] Yn nechrau’r 1790au roedd diddordeb mawr yng Nghymru ac ymysg Cymry Llundain yn arbennig, yn y stori fod Madog ab Owain Gwynedd wedi darganfod America yn y 12g, a bod rhai o ddisgynyddion y Cymry yn dal i fyw yng Ngogledd America ac yn siarad Cymraeg. Credid mai llwyth y Mandan oedd y rhain. Esgorodd Iolo Morgannwg ar gynllun i deithio i America a chwilio am y Mandan ar hyd Afon Missouri, a chytunodd John Evans i fynd gydag ef. Yn y diwedd ni aeth Iolo, ac ar ei ben ei hun y teithiodd John Evans i America, gan gyrraedd Baltimore yn Hydref 1792. Yng ngwanwyn 1793 aeth i St. Louis yn Louisiana Sbaeneg, lle carcharwyd ef gan y Sbaenwyr am gyfnod gan eu bod yn amau ei fod yn ysbiwr.

Fodd bynnag erbyn Ebrill 1795 roedd wedi cael cefnogaeth yr awdurdodau Sbaenig i deithio i fyny'r Missouri a cheisio darganfod llwybr at y Môr Tawel o ran uchaf yr afon. Cafodd hyd i’r Mandan ar 23 Medi 1796,[2] a threuliodd y gaeaf gyda nhw cyn dychwelyd i St. Louis yn 1797. Ni allodd ddarganfod unrhyw awgrym o eiriau Cymraeg yn eu hiaith. Roedd wedi teithio 1,800 milltir i fyny’r Missouri o’r fan lle mae’n aberu yn Afon Mississippi a chynhyrchodd fap yn dangos cwrs yr afon. Daeth hwn i ddwylo Thomas Jefferson a throsglwyddodd Jefferson ef i Lewis a Clark fu’n fforio’r ardal ychydig yn ddiweddarach.

Parhaodd John Evans yng ngwasanaeth yr awdurdodau Sbaenig, ond bu farw yn New Orleans yn mis Mai 1799 wedi ei siomi'n fawr.[3]

Cyfeiriadau

  1. Bob Owen, Yr Ymfudo o Sir Gaernarfon i'r Unol Daleithiau (i) (Trafodion Hanes Sir Gaernarfon, Cyf. 13 (1952)), t.46
  2. Hafina Clwyd, Rhywbeth Bob Dydd (Llarwst, 2008)
  3. David Williams (1963) John Evans a chwedl Madog (Caerdydd, 1963) a Gwyn A. Williams, Madog: the making of a myth (Lundain, 1979), passim