Maria Stella

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 13:12, 6 Gorffennaf 2022 gan Cyfaill Eben (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Arglwyddes Newborough oedd Maria Stella (16 Ebrill 1773 – 28 Rhagfyr 1843).

Ganwyd Maria Stella Petronilla ym Modligiana, Yr Eidal i Lorenzo Chiappini a’i wraig Vincentia Diligenti. Magwyd hi yn Fflorens, a bu'n byw ym Modigliana, heb fod ymhell o Fflorens, hyd nes oedd yn 19 mlwydd oed.

Pan yn 13 oed, priodwyd hi â Syr Thomas Wynn, Arglwydd 1af Newborough, a oedd tua 50 oed, tra oedd hwnnw'n ymweld â Fflorens yng nghwmni ei fab o'i briodas gyntaf. Bu'r ddau'n byw yn yr ardal am gyfnod cyn symud i fyw yn barhaol yng Nglynllifon, Llandwrog ar ôl cyfnod o drafferthion ariannol. Ganwyd iddynt ddau fab, Thomas John Wynn ar 3 Ebrill 1802, a Spencer Bulkeley Wynn 23 Mai 1803. Ar ôl marwolaeth ei gŵr ym 1807, priododd â'r Barwn Ungern Sternberg o Estonia, lle preswyliodd y ddau, ac wedyn ym Mharis tan ei marwolaeth ym 1843.

Mae Maria Stella yn nodedig o’i chyfnod am iddi geisio profi ei bod yn wir etifedd i goron Ffrainc, gan ei bod wedi ei rhoi yn blentyn i Lorenzo Chiappini a'i wraig, a honnai mai brenin a brenhines Ffrainc oedd ei rhieni biolegol a'u bod hwy wedi ei chyfnewid hi am fab a aned i'r Chiappinis. Cyhoeddod ei hunangofiant ym 1830 (‘Maria Stella ou un éclhange d'une demoiselle du plus haut rang contre in garçon de plus vile condition’), ac fe wnaeth ymroi'n benderfynol i hyrwyddo ei chais drwy gydol ei hoes.