Aliortus

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 14:48, 24 Mehefin 2022 gan Cyfaill Eben (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Gweler yma am Garreg Aliortus

Ni wyddys fawr ddim am hanes Aliortus, ond credir ei fod wedi byw yn ardal Llanaelhaearn yn y chweched neu'r seithfed ganrif, neu wedi marw yno ar ei ffordd drwy'r ardal. Darganfuwyd carreg mewn cae gyferbyn ag Eglwys Llanaelhaearn ym 1865, gydag ysgrifen Ladin ar ei hyd.

Dyma gyfieithiad o’r ysgrifen, “Yma y gorwedd Aliortus, un o Elmet”. Awgryma hyn fod Aliortus wedi mudo i’r cwmwd o Elmet, sef hen deyrnas Frythonig o gwmpas Swydd Efrog yng Ngogledd Lloegr. Awgryma’r darganfyddiad hwn fod mewnfudwyr o'r Hen Ogledd wedi symud i'r rhannau yma o Gymru cyn belled yn ôl â’r 6g neu'r 7g.