W. Gilbert Williams

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 13:27, 24 Mehefin 2022 gan Cyfaill Eben (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Ysgolfeistr a hanesydd lleol oedd William Gilbert Williams (20 Ionawr 1874- 10 Hydref 1966).

Teulu a gyrfa

Fe'i ganed yn Nhŷ’r Capel, Rhostryfan, Llanwnda. Roedd yn fab i John Williams, chwarelwr, a Catherine Jones. Brawd iddo oedd John Williams (J.W. Llundain), a gyhoeddodd ei hunangofiant (Hynt Gwerinwr) sydd yn rhoi manylion am gartref a blynyddoedd cynnar Gilbert Williams.

Bu Gilbert Williams yn gweithio yn Chwarel Cilgwyn i ddechrau ac wedyn aeth ymlaen i fod yn athro, gan astudio yn y Coleg Normal ym Mangor rhwng 1892-1894. Roedd yn Brifathro Ysgol Felinwnda, Llanwnda o ddyddiad ei hagor ym 1895 ac wedyn yn Rhostryfan rhwng 1918 a 1934. Bu'n flaenor yng Nghapel Horeb (MC) am flynyddoedd lawer, ac yn gynghorydd dosbarth a sirol rhwng 1951 a 1961.

Yr hanesydd a'r llenor

Bu'n un o brif ysgogwyr sefydlu Cymdeithas Hanes Sir Gaernarfon ym 1939. Bu hefyd yn ymwneud llawer â hanes lleol, a derbyniodd radd M.A. er anrhydedd oddi wrth Brifysgol Cymru am ei gyfraniad i hanes Cymru. O ddechrau'r 20g ymlaen, dechreuodd ysgrifennu erthyglau i bapurau lleol yn seiliedig ar ymchwil fanwl ymysg papurau hanesyddol y sir, gan gyhoeddi erthyglau eraill ar ffurf pamffledi bach a argraffwyd ar ei beiriant argraffu bach ei hun. Arbenigai yn hanes yr 17g., er bod llawer o'i ysgrifau hefyd yn ymwneud â hanes plwyfi Llanwnda a Llandwrog a'r mân foneddigion a drigai yno dros y canrifoedd. Fe'i cyfrifir ymysg y goreuon o haneswyr lleol 'gwyddonol' cynnar, yn seilio ei gasgliadau ar ffeithiau profedig yn hytrach na straeon gwlad. Cyhoeddwyd tair ysgrif o'i eiddo yn ymwneud â'r 17g yn arbennig yn y gyfrol Arfon y Dyddiau Gynt (Caernarfon: Cwmni y Cyhoeddwyr Cymreig Cyf.) a chyhoeddwyd detholiad o'i erthyglau ar hanes plwyfi Llanwnda a Llandwrog yn y gyfrol Moel Tryfan i'r Traeth, (gol. Gareth Haulfryn Williams), (Cyhoeddiadau Mei, 1983.

Ysgrifennodd o leiaf ddwy ddrama hanesyddol - un ohonynt oedd y ddrama fydryddol Rhyfelgyrch Hywel - a pheth barddoniaeth hefyd. Weithiau arddelai'r enw barddol Gilbart.

Ceir casgliadau o'i waith ymchwil, yn nodiadau, traethodau, a dogfennau a gasglodd yn y dyddiau cyn bod archifdai, yn Archifdy Caernarfon ac Archifdy Prifysgol Bangor.

Is-etholiad 1943

Ym 1943, cynhaliwyd is-etholiad ar gyfer etholaeth Prifysgol Cymru, a'r ddau brif ymgeisydd oedd yr Athro W.J. Gruffydd, (Rhyddfrydwr) a Saunders Lewis (Plaid Genedlaethol Cymru). Gruffydd enillodd yr etholiad, ar ôl hir a chwerw ddadlau a rannodd fyd academaidd a deallusol y genedl. Diddorol yw nodi fod Gilbert Williams wedi ymuno â'i ffrind, Dr Thomas Richards (llyfrgellydd Coleg Bangor), wrth gefnogi Gruffydd mewn llythyr agored i'r Wasg (ynghyd â rhai degau o academyddion eraill). Ar y llaw arall roedd ei gyd-hanesydd a'r gohebydd, Bob Owen (Croesor), wedi cefnogi Lewis mewn llythyr arall a gafodd lawn cymaint o lofnodion. Er i Gruffydd sefyll fel Rhyddfrydwr, fodd bynnag, roedd yn gyn-is-lywydd y Blaid a llawer o'i gefnogwyr yn bleidwyr hefyd, ond iddynt weld y perygl o ethol Catholig fel Saunders Lewis i afael anghydffurfiaeth ar y wlad. Peryglus, felly, fyddai priodoli safbwynt gwleidyddol penodol i Gilbert fwy nag i unrhyw un arall o gefnogwyr Gruffydd.[1]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. Tegwyn Jones, Ambell Air ac Ati, (Llanrwst, 2013), tt.174-5