Tŷ Mawr, Clynnog
Mae Tŷ Mawr yn fferm sylweddol ar y gwastadeddau arfordirol ym mhen mwyaf gogleddol plwyf Clynnog Fawr, nid nepell o Bontlyfni. Roedd y tŷ'n un o ddau gartref Llwydiaid Cwm Gwared a oedd yn berchen ar ystad fechan, hyd nes i'r teulu dorri eu cysylltiadau â Sir Gaernarfon ac ymsefydlu'n derfynol yn Llundain tua 1728.[1] Wedi hynny fe brynodd Thomas Wynn yr eiddo i'w ychwanegu at Ystad Glynllifon.
Cafodd Syr Owen John Roberts, yr addysgwr a mab i Owen Roberts, asiant tir a ffermwr, ei eni yn Nhŷ Mawr ym 1835.[2]
Ar y map degwm, dyddiedig 1840, mae melin yn cael ei dangos ar fuarth fferm Tŷ Mawr. Dichon mai melin at ddiben y fferm yn unig, neu felin eithin i falu porthiant i'r ceffylau yr oedd.[3] Erbyn hynny, yr oedd y fferm yn rhan o Ystad Newborough, ac ym 1840, William Griffith oedd y tenant.